Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Carnifal Butetown, y gorffennol, presennol, a'r dyfodol

Diweddarwyd Dydd Mawrth, 8 Rhagfyr 2020
Keith Murrell, arweinydd Carnifal eiconig Butetown yng Nghaerdydd, yn archwilio ei orffennol astrus a dyfodol disglair i ddathlu cymuned amlddiwylliannol Butetown, a chyfeirio at y camsyniadau a'r anghyfiawnder a wynebwyd ar hyd y daith.

Gwreiddiau

Trosglwyddwyd nifer o'r nodweddion rydym yn cysylltu â 'Charnifal' heddiw i'r DU o dramor yn gynnar yr ugeinfed ganrif. Roedd Ardal y Dociau yn Butetown, Caerdydd ar ei hanterth bryd hynny. Roedd llawer o fasnach yn dod o Orllewin Affrica, y Caribî a gweddill y byd.

Yng Nghymru, roedd traddodiadau'n bodoli ers tro, megis Mari Lwyd, lle'r oedd pobl yn gwisgo'n smart ac yn canu neu rannu straeon â'r naill a'r llall, gan fynd o un aelwyd i'r llall. Byddai pobl gydag offerynnau dros dro yn perfformio yn y strydoedd ac yn cael eu talu gyda bwyd a diod. Roedd yr elfennau Carnifal hyn yno'n barod, dros gan mlynedd yn ôl.

Yn ogystal â hyn, byddai ffair deithio'n arfer parcio yn Sgwâr Loudoun, Butetown yn y gaeaf. Felly, byddai ffair aeaf yn cael ei chynnal bob blwyddyn o fewn y gymuned leol.

Mardi Gras a 'chwalu slymiau' Butetown

Mardi Gras flyer in Cardiff, 1968

Ac ymlaen i ganol yr 1960au, sefydlodd wleidyddion a ffigyrau pwerus eraill yng Nghaerdydd Mardi Gras fel anrheg ddyngarol i 'bobl dlawd Butetown'.

Roedd hyn yn cyd-fynd â rhaglen 'chwalu slymiau' Butetown. Roedd y gymuned yn gythryblus, ac efallai bod Mardi Gras yn ymateb lleddfol i hynny. Is-deitl y digwyddiad oedd Carnifal Caribïaidd Rhyngwladol. Bu'n rhedeg am rai blynyddol, cyn i'r Cyngor ei ganslo.  

Ymateb i hiliaeth: dyfodiad y Carnifal

Yn yr 1970au, roedd Clwb Ieuenctid Butetown yn arfer creu fflotiau ar thema Garibïaidd ym Mharêd yr Arglwydd Faer yng Nghaerdydd. Cafwyd digwyddiad un flwyddyn, lle clywyd rhywun yn y dorf yn gwneud sylwadau hiliol. Fe achosodd hyn wrthdaro. Fodd bynnag, y Clwb Ieuenctid a gafodd eu cosbi a'u gwahardd o'r Parêd, am ymateb i'r hiliaeth a gyfeiriwyd atyn nhw.          

Penderfynodd arweinwyr y Clwb Ieuenctid gynnal eu digwyddiad eu hunain. Roedd pobl hŷn y gymuned yn ymwybodol o'r pwysigrwydd diwylliannol fyddai ynghlwm â'r digwyddiad, felly penderfynasant iddo fod yn garnifal. Mae rhywbeth diwylliannol hanfodol yn elfen garnifal y digwyddiad.

O gwmpas yr adeg honno, roedd diwylliant y bobl dduon yn sefydlu ei hun. Roedd twf y carnifal yn digwydd ledled y DU. Ymddangosodd Carnifal St Paul ym Mryste a Charnifal Notting Hill yn Llundain yn yr 1960au, ond yn yr 1970au dechreuon nhw ddod yn fwy enwog a chael mwy o effaith ar ddiwylliant cyffredinol.  

Terfysgoedd Llundain

Canslwyd Carnifal Butetown un flwyddyn oherwydd y glaw, felly penderfynodd grŵp ohonom fynd i Notting Hill. Digwyddodd hyn yn 1976, blwyddyn y terfysgoedd. Roedd pob un ohonom yn ddiogel, ond ar ôl dychwelyd adref, penderfynodd arweinwyr a phobl hŷn y gymuned y byddai'r Carnifal yn ddigwyddiad swyddogol yn Butetown, fel nad oedd angen i ni fynd i ffwrdd i ddod o hyd i'n diwylliant.

'Digwyddiad diwylliannol mwyaf Caerdydd.'

Performers at Butetown Carnival

O 1977, sefydlwyd Carnifal Butetown fel yr hyn rydym yn ei adnabod heddiw. Tyfodd ei boblogrwydd yn ystod y degawd nesaf. Erbyn canol a diwedd yr 1980au, y carnifal oedd digwyddiad diwylliannol mwyaf Caerdydd. Roedd 25,000 o bobl yn ei fynychu'n ddyddiol, ar adeg pan roedd y boblogaeth leol oddeutu 4,000.

Roeddech yn gallu gweld y math o effaith roeddem yn ei chael ar draws y ddinas ehangach. Roedd pobl o Lundain yn dod i'n Carnifal ni. Ein hymateb i gael ein gwahardd o Barêd yr Arglwydd Faer oedd cynnal y digwyddiad diwylliannol cynhwysfawr mwyaf yng Nghaerdydd, ac o bosib yng Nghymru.

Achub y Carnifal

Er yr holl lwyddiant, caeodd Carnifal Butetown oherwydd cymhlethdodau ariannol yn yr 1980au hwyr. Ceisiodd y cwmni oedd y tu cefn i ailddatblygiad Bae Caerdydd adfer Carnifal Butetown. Ond nid oedd pobl Butetown yn hapus i adael y carnifal allan o'u gafael, felly penderfynodd grŵp lleol, gan fy nghynnwys innau, weithio i achub y Carnifal. Celfyddydau Cymunedol Bae Teigr oedd enw'r grŵp.

Roedd fy niddordeb diwylliannol yn hanes Butetown yn deillio o'r gymuned a'r bobl hŷn o'm cwmpas. Byddai pobl yn arfer dangos lluniau a gwneud pethau fel darluniau. Olwen Watkins, athrawes ysgol leol oedd fy mentor. Mae llawer o'i hegwyddorion hi, a'r sgyrsiau a gawsom wedi ymgorffori yn fy athroniaeth fy hun. Dywedodd wrthyf am beidio â chwyno am y pethau oedd yn digwydd yn y gymuned, ac i weithredu dros bethau fy hun.

Derbyniasom ychydig o gyllid, ond wedi tair blynedd, doedd dim mwy o arian ar gael. Llwyddasom i barhau am flwyddyn arall, ond digalonnodd y gymuned. Bu i ni ganfod ein hunain yn cystadlu â digwyddiadau diwylliannol eraill yng Nghaerdydd, oedd yn derbyn mwy o gyllid, ac yn anwybyddu'r artistiaid a pherfformwyr du o fewn eu cymunedau. Yn y diwedd, rhoddwyd diwedd ar y Carnifal. 

'Creu darlun mwy positif.'

Fod bynnag, chwe blynedd yn ôl, penderfynasom fod angen i'r Carnifal ddod yn ei ôl. Roedd yn rhaid i ni greu rhywbeth o ddim byd, a chreu darlun mwy positif o Butetown. Roedd y sefydliadau eraill oedd yn dod i'r gymuned wedi ein dadrymuso, ond roeddem yn dal yn gallu cynnal Carnifal.

Roeddem wedi ein gwahanu. Roedd proffilio ethnig yn digwydd mewn prosesau gosod tai. Crëwyd ffiniau o'n cwmpas, oedd yn achosi problemau megis cystadlu rhwng grwpiau gwahanol. Yn hytrach na hunaniaeth gyfunol yn Butetown, crëwyd cymunedau Caribïaidd, Somalïaidd ac Yemenïaidd.

Mae Carnifal - cerddoriaeth, bwyd, dawns, lliw, gwisgoedd, teulu - yn sicr o ddod â chymuned at ei gilydd unrhyw le yn y byd. Pwrpas Carnifal Butetown yw dathlu diwylliannau gwahanol ein cymunedau, yn ogystal â brwydro yn erbyn y seilos sydd wedi cael eu creu o'n cwmpas ni - ac mae'n gweithio.

Mae angerdd mewn Carnifal, ac ni allwch chi dynnu hynny oddi wrthym ni.

Dod â Butetown at ei gilydd

Rydym yn parhau i fwydo i mewn i'r darlun o dlodi a chaledi. Mae celf a llenyddiaeth yn mwynhau dystopia, ac wrth ymweld â Butetown yn y ffurfiau hyn, rhoddir sylw i'r gymuned sydd wedi marw. Fodd bynnag, rydyn ni'r bobl leol wedi cychwyn coelio'r straeon hynny hefyd.

Rydym angen pwyllo a bod yn glir am y ffordd mae pethau'n cael eu dehongli ym meddyliau'r cenedlaethau nesaf. Mae pawb yn adrodd yr un hen straeon am sut le oedd Butetown, beth a gollwyd yno, a beth na allwn ni ei wneud. Wrth gwrs fod problemau'n bodoli, ond mae'r hyn allwn ni ei wneud yn dweud llawer mwy. 

Gofynnodd rhywun i mi, sut roeddwn yn teimlo yn y Carnifal cyntaf yn 2014. Edrychais o'm cwmpas, ac roedd clystyrau o bobl yn sgwrsio. Roedd cael gweld hynny, o ystyried cyd-destun Butetown, a'r chwyldro a wynebwyd yno, yn wych.

'Mae'r presennol yn eiddo i ni hefyd'

Children holding hands in Butetown Carnival parade

Wrth adfywio, mae miloedd o dai newydd yn amgylchynu Butetown. Fodd bynnag, mae rhai rhannau o'r datblygiad wedi bod yno ers 30 mlynedd bellach. Roeddwn yn cerdded heibio Canolfan Mileniwm Cymru gyda'm hwyres, oedd yn dair oed ar y pryd. Edrychodd arno a dweud, 'Carnifal yn fan'na', a dyna lle mae wedi bod erioed, yn ei chof hi. Roedd hynny’n bwysig iawn i mi. Mae’n rhaid i ni gofio fod y presennol yn eiddo i ni hefyd.

Roedd eleni’n wahanol iawn oherwydd pandemig y Coronafeirws. Roeddem wedi bwriadu cynnal cyfres o ddigwyddiadau a gweithdai creadigol dros 12 mis ar gyfer cymunedau ar draws Caerdydd. Oherwydd y cloi mawr, nid oedd posib gwneud hyn, felly bu i ni gomisiynu'r artistiaid oedd yn arwain y gweithdai i weithio ar eu prosiectau creadigol eu hunain gartref. Yna, gwnaethom ffilmiau byr ar gyfer bob darn.

Bu i ni hefyd gynnal perfformiadau pop-yp y tu allan i'r Senedd a Chanolfan Mileniwm Cymru. Llwyddasom i gael gwaith proffesiynol ar gyfer grŵp dawns ieuenctid lleol. Dywedodd un o’r genethod fod dawnsio yno’n golygu popeth, gan fod ei Nain yn byw yn Butetown. Roedd hynny hefyd yn bwysig, gan ei bod hi wedi gweld yr un gwerth yno â minnau.

Buddsoddi yn y gymuned

Rwy’n poeni nad yw’r gymuned yn cael ei chynrychioli ddigon yng Ngharnifal Butetown. O ran gwneud gwisgoedd a phypedau traddodiadol, neu chwarae drymiau dur, nid oes artistiaid yn Butetown ar hyn o bryd. Rydym angen dod â’r sgiliau hyn yn ôl, buddsoddi ynddynt gyda gwerth a’u haddysgu i genedlaethau ieuengach, er mwyn iddyn nhw barhau â’r traddodiadau hyn wrth fynd yn eu blaenau.  

Yn ogystal, mae rhai ohonom yn disgyn i fwlch 'hil-oedraniaeth' - hiliaeth ac oedraniaeth. Mae nifer o brosiectau ar gael i bobl ifanc lliw yng Nghymru fodern. Ond mae grŵp sylweddol ohonom wedi ein gwahardd ers degawdau. Rydym eisiau cyflwyno pobl ifanc i'r hyn rydym wedi ei adeiladu fel cymuned iddyn nhw. Mae'r sgiliau, doniau a chalon yno, ond mae angen rhoi'r cyfan ar waith. Mae'n rhaid buddsoddi tymor hir. Dydi pobl ddim yn ifanc am byth.

Rwyf wedi gweithio gyda nifer o unigolion sydd wedi dangos diddordeb yn yr hyn rydym yn ei ddweud, ond wedi newid eu meddwl erbyn y diwrnod canlynol. Rydym yn ymdrin â'r ecsbloetiaeth yma fel mater o gyfiawnder a chydraddoldeb. Rydym yn adrodd ein straeon yn well. Rydym yn hael. Gweithiwch gyda ni, a byddwch yn cael y stori lawn, nid ei hanner hi.

Adennill ein hardal

Butetown Carnival parade outside Wales Millenium Centre

Mae Carnifal Butetown wastad wedi cael ei ystyried yn ddigwyddiad cerddoriaeth pobl dduon. Cyn Symudiad Mae Bywydau Du o Bwys a chyn fod MOBO yn derm adnabyddus, ymdriniwyd â'r carnifal fel digwyddiad difrïol. Pum mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, mae barn y byd wedi newid  - mae digwyddiad cerddoriaeth pobl dduon bellach yn cael ei adnabod yn gyfiawn. 

Yn wreiddiol, cynaliasom y Carnifal ym Mharc y Gamlas yn Sgwâr Loudoun am na allai unrhyw un ei stopio ni yno. Fel arfer, mae'r parêd yn cychwyn ar lannau Cei’r Fôr-forwyn, sef hen Ddociau Butetown, ac yn gorffen yn y parc. Yn y dyfodol, hoffwn newid hyn, fel ein bod ni'n cychwyn yn y parc, ac yn gorffen y parêd drwy gyflwyno ein Carnifal i'r byd ac adennill ein hardal, lle cychwynnodd ein stori.

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Awdur

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?