Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Beth amdana i? Cwrs datblygiad personol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru
Beth amdana i? Cwrs datblygiad personol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Fy Nghofnod Myfyrio

Gallwch gwblhau'r gweithgareddau mewn ambell i ffordd:

  • Wrth i chi weithio drwy Beth amdana i? Cliciwch ar y taflenni a ddarparwyd gennym. Gellir eu llawrlwytho.
  • Neu
  • Defnyddiwch Fy Nghofnod Myfyrio [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , adnodd personol sy'n cofnodi eich hynt ar y cwrs wrth i chi gyflawni'r gweithgareddau a'r tasgau amrywiol. Gallwch ychwanegu nodiadau a sylwadau pellach ato ar unrhyw bryd. Ar ôl i chi gwblhau'r cwrs, gobeithio y bydd y Cofnod hwn yn ffynhonnell gyfeirio bwysig ac yn sail i'ch camau nesaf mewn bywyd neu wrth astudio neu weithio.

Cynlluniwyd Fy Nghofnod Myfyrio i'w lawrlwytho a'i arbed i'ch cyfrifiadur neu gofbin. Efallai y byddai'n ddefnyddiol gwneud hynny nawr. Yna, gellir ei agor ac ychwanegu ato fel sydd angen - ond cofiwch ei arbed bob tro rydych yn ei ddefnyddio. Os yw'n well gennych, gallwch argraffu'r Cofnod a'i ddefnyddio i nodi eich meddyliau.

Sut bynnag rydych yn ei ddefnyddio, bydd yn ddefnyddiol gwneud nodiadau naill ai yn eich Cofnod neu mewn llyfr nodiadau wrth i chi weithio drwy'r cwrs.