Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Beth amdana i? Cwrs datblygiad personol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru
Beth amdana i? Cwrs datblygiad personol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Edrych yn ôl, edrych ymlaen

Yn Sesiwn 1 gwnaethoch ddechrau edrych ar eich rolau, sgiliau a rhinweddau eich hun. Y pwynt allweddol yma oedd, drwy fyfyrio ar ein profiadau, ein bod yn dysgu rhywbeth sy'n ein helpu i symud ymlaen.

Mae Sesiwn 2 wedi dangos sut mae tynnu llinell amser o fudd wrth olrhain beth ddigwyddodd a phryd, a sut rydym yn teimlo am y profiadau hyn; beth rydym wedi'i ddysgu ohonynt a sut maent wedi helpu i'n llunio fel unigolion.

Rydych wedi bod yn edrych yn ôl ar eich profiadau mewn bywyd, neu gyfnod o'ch bywyd. Dangosodd llinellau amser Claire a Christine fod profiadau da a drwg a bod ffactorau eraill wedi dylanwadu ar eu llinellau amser.

Activity _unit3.5.1 Gweithgaredd 2.4 Dylanwadau a dewisiadau

Timing: Dylech dreulio tua 15 munud ar y gweithgaredd hwn.

Yn y sesiwn nesaf byddwch yn edrych ymlaen ac yn ystyried y ffactorau sy'n dylanwadu ar y dewisiadau rydych yn eu gwneud am eich dyfodol. I ddechrau arni, edrychwch ar Ffigur 2.7. Mae'r diagram gwe pry cop hwn yn ffordd graffig o ddangos cysylltiadau.

Described image
Figure _unit3.5.1 Ffigur 2.5 Diagram gwe pry cop o brif ffactorau posibl bywyd Claire

Gan feddwl am yr amrywiaeth o ffactorau yn eich bywyd sy'n dylanwadu ar eich dewisiadau am y dyfodol, ceisiwch dynnu diagram gwe pry cop i chi'ch hun ar daflen Gweithgaredd 2.4 [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] a ddarparwyd [link to asset 60]

NEU

Ewch i Weithgaredd 2.4 o'ch Cofnod Myfyrio. Pan fyddwch wedi cwblhau'r gweithgaredd, gwnewch yn siŵr eich bod yn arbed y ddogfen eto.