Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Beth amdana i? Cwrs datblygiad personol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru
Beth amdana i? Cwrs datblygiad personol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Sgiliau a rhinweddau

Suzanne

Gwrandewch ar Suzanne yn siarad am y sgiliau a'r rhinweddau y mae wedi'u datblygu drwy ei rôl fel gofalwr.

Figure _unit4.2.1 Ffigur 3.2
Download this audio clip.Audio player: cym_s3_suzanne_audio.mp3
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Felly sgiliau a rhinweddau Suzanne yw:

  • ymchwilio
  • casglu gwybodaeth
  • cefnogi
  • peidio â bod ofn anghytuno.

Activity _unit4.2.1 Gweithgaredd 3.1 Meddwl am fy sgiliau a rhinweddau i

Timing: Dylech dreulio tua 15 munud ar y gweithgaredd hwn.

Beth yw eich barn ar restr o sgiliau a rhinweddau Claire a Suzanne?

A ydych wedi meddwl am y rhinweddau personol sydd gennych chi a sut y gallech eu defnyddio? Pa sgiliau a rhinweddau ydych chi wedi'u datblygu drwy eich profiadau gofalu? Pa sgiliau eraill sydd gennych, er enghraifft o'ch addysg neu yrfa?

Dewiswch ddigwyddiad neu bwynt ar eich llinell amser pan fu'n rhaid i chi weithredu er mwyn datrys rhywbeth. Gallai ymwneud â theulu, gwaith neu faterion ymarferol fel y cartref ac arian.

Edrychwch ar dabl James lle mae'n disgrifio penderfyniad anodd a wnaeth, y sgiliau a ddefnyddiodd a'r rhinweddau a ddangosodd.

Table _unit4.2.1 Tabl 3.1
Y digwyddiad yn fy mywyd
Gwrthod swydd y gweithiais yn galed amdani oherwydd cyfrifoldebau gofalu
Yr hyn a wnes
Cael cyfweliad a chysgodi fy mos a oedd yn ymddeol am chwe wythnos ac yna wrthod y rôl - anodd iawn
Pa sgiliau a ddefnyddiwyd gennyf
Bod yn agored, eglurder, rhesymeg, cyfathrebu
Pa rinweddau a ddangosais

Cadw fy emosiynau dan reolaeth

Aros yn benderfynol

Nawr gwnewch restr o'r hyn wnaethoch chi ac yna meddyliwch am y sgiliau a ddefnyddioch a'r rhinweddau sydd gennych, a allai fod wedi eich helpu. Ysgrifennwch eich nodiadau ar daflen Gweithgaredd 3.1 [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]

NEU

Ewch i Weithgaredd 3.1 o'ch Cofnod Myfyrio. Pan fyddwch wedi cwblhau'r gweithgaredd, gwnewch yn siŵr eich bod yn arbed y ddogfen eto.

Os ydych yn gweithio fel grŵp, efallai y byddwch am drafod gyda'ch gilydd. Neu efallai y byddwch am drafod â ffrind.

Myfyrio

Meddyliwch am y cwestiynau canlynol a gwnewch rai nodiadau yn eich Cofnod Myfyrio neu lyfr nodiadau:

  • A oeddech yn defnyddio rhai o'r un sgiliau â Claire, Suzanne neu James?
  • A wnaethoch ddarganfod unrhyw sgiliau eraill, nad oeddech efallai yn ymwybodol ohonynt?
  • A ydych nawr yn ymwybodol o rinweddau sydd gennych ond nad oeddech wedi'u hystyried o'r blaen?