Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Sut mae cael bathodyn

Mae’r broses o gael bathodyn yn syml! Dyma mae angen i chi ei wneud:

  • darllen pob sesiwn o'r cwrs
  • cael sgôr o 50% neu fwy yng nghwis bathodyn Sesiwn 6.

Ym mhob cwis, gallwch roi cynnig ar ateb y rhan fwyaf o gwestiynau dair gwaith (dim ond unwaith y cewch chi ateb cwestiynau ‘gwir neu ffug’ fel arfer). Os cewch chi'r ateb yn gywir y tro cyntaf, fe gewch chi fwy o farciau nag y byddech chi’n ei gael am ateb yn gywir ar eich ail neu’ch trydedd ymgais. Felly, sylwch eich bod yn gallu cael yr holl gwestiynau’n iawn yn y cwis bathodyn, ond peidio â chael sgôr o 50% i fod yn gymwys ar gyfer y bathodyn ar yr ymgais honno. Os yw un o'ch atebion yn anghywir, byddwch yn aml yn cael adborth defnyddiol ac awgrymiadau i’ch helpu i ganfod yr ateb cywir.

Ar gyfer y cwisiau bathodyn, os nad ydych chi’n llwyddo i gael 50% y tro cyntaf, fe gewch chi roi cynnig arall ar y cwis cyfan ar ôl 24 awr, a dod yn ôl cymaint o weithiau ag yr hoffech chi.

Rydyn ni’n gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn cael bathodyn y Brifysgol Agored – felly dylech chi feddwl am gael bathodyn fel cyfle i fyfyrio ar yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu yn hytrach na phrawf.

Os oes angen mwy o arweiniad arnoch chi am gael bathodyn a beth gallwch chi ei wneud ag ef, edrychwch ar Gwestiynau Cyffredin OpenLearn [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Pan fyddwch chi’n cael eich bathodyn, byddwch yn cael e-bost i roi gwybod i chi a byddwch yn gallu gweld a rheoli eich holl fathodynnau yn My OpenLearn cyn pen 24 awr i gwblhau'r meini prawf i gael bathodyn.

Dechrau arni gyda Sesiwn 1: Gwneud penderfyniadau gwario da.