Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3 Gwireddu’r newid

Yr wythnos hon, rydych wedi edrych ar ffordd o feddwl am eich dysgwyr (y model Preswylwyr ac Ymwelwyr) a rôl technoleg a dylunio dysgu yn eich cynlluniau i symud i addysgu ar-lein. Bydd rhan olaf deunyddiau’r wythnos hon yn canolbwyntio ar awgrymiadau da ar gyfer gwneud newidiadau i’ch ymarfer addysgu.

Yn eu hadroddiad ‘Beyond Prototypes’, mae Scanlon et al. (2013) yn cynnig pedwar ‘argymhelliad ar gyfer ymchwilwyr’ a allai fod yn berthnasol i chi wrth gynllunio ar gyfer symud i addysgu ar-lein:

  • Dylai timau ymchwil amlygu, yn gynnar yn y broses, y camau sy’n ofynnol i alluogi gweithredu’n gynaliadwy ac yn ôl graddfa y tu hwnt i brototeipiau, er mwyn gwella dysgu.
  • Mae angen i ymchwilwyr ymgysylltu’n llawn â’r unigolion a’r cymunedau a fydd yn cyfrannu at y broses weithredu.
  • Dylai timau ymchwil ystyried mabwysiadu Ymchwil wedi’i Seilio ar Ddylunio fel methodoleg systematig ond hyblyg ar gyfer arloesi a arweinir gan ymchwil, yn seiliedig ar gydweithredu ymhlith ymchwilwyr ac ymarferwyr mewn sefyllfaoedd byd go iawn.
  • Dylai’r canlyniadau dros dro a’r rhai terfynol o astudiaethau wedi’u seilio ar ddylunio gael eu rhannu’n systematig ag ymchwilwyr eraill fel y gellir cymharu, ymestyn a pharhau â’r broses arloesi dros amser. Dylent hefyd gael eu lledaenu’n eang ymhlith llunwyr polisïau ac ymarferwyr, trwy ddigwyddiadau fel cyfarfodydd ‘yn ôl gwaith ymchwil’.

Mae Ymchwil ar Sail Dylunio, a grybwyllir yn yr argymhellion uchod, yn fethodoleg a allai fod o ddiddordeb arbennig wrth ddylunio newidiadau i ymarfer addysg. Rhai o nodweddion craidd ymchwil wedi’i seilio ar ddylunio ym myd addysg yw ei bod yn gweithredu newidiadau ailadroddol i ymarfer bywyd go iawn, gan brofi damcaniaethau addysgegol newydd neu fframweithiau ar gyfer cysyniadoli dysgu.

Os hoffech ddysgu mwy am Ymchwil wedi’i Seilio ar Ddylunio, mae’r fideo ‘Ymchwil wedi’i Seilio ar Ddylunio’ [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] hwn yn rhoi cyflwyniad byr.