Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Deall datganoli yng Nghymru
Deall datganoli yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Deunydd darllen pellach

ESRC Centre on Dynamics of Ethnicity (2014) ‘Who identifies as Welsh? National identities and ethnicity in Wales’, The University of Manchester [Ar-lein]. Ar gael yma http://hummedia.manchester.ac.uk/ institutes/ code/ briefings/ dynamicsofdiversity/ code-census-briefing-national-identity-wales.pdf [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (Cyrchwyd ar 25 Mai 2021).
Evans, F. (2019) ‘The Changing Face of Wales: How Welsh do you feel?’, BBC News [Ar-lein]. Ar gael yma https://www.bbc.co.uk/ news/ uk-wales-47475486 (Cyrchwyd ar 25 Mai 2021).
Lewis, H. (2019) ‘Why Nationalists Fail’, The Atlantic [Ar-lein]. Ar gael yma https://www.theatlantic.com/ international/ archive/ 2019/ 12/ uk-election-wales-scotland-independence/ 603283/ (Cyrchwyd ar 25 Mai 2021).
Williams, S. (2018) ‘Politicising national identity: Welsh parties conflate ‘Welshness’ with their own political ideology’, LSE [Ar-lein]. Ar gael yma https://blogs.lse.ac.uk/ politicsandpolicy/ politicising-national-identity-in-wales/ (Cyrchwyd ar 25 Mai 2021).
Am gael gwybod mwy am ddatganoli yng Nghymru? Mae dwy brif felin drafod yn gweithio yn y maes hwn yng Nghymru:
Mae gan y Sefydliad Materion Cymreig archif fawr sy'n cynnwys darlithoedd, adolygiadau o lyfrau a blogiau sy'n cynnwys gwybodaeth a sylwadau ar hynt y broses ddatganoli gyfan yng Nghymru, ynghyd â llawer o ddeunydd arall ar gyd-destun economaidd a chymdeithasol Cymru. Cyfarwyddwr y Sefydliad rhwng 1996 a 2013 oedd John Osmond, a fu’n flaenllaw yn yr ymgyrch dros ddatganoli yng Nghymru ac sydd wedi ysgrifennu nifer o lyfrau ac erthyglau ar hynt datganoli.
Mae Sefydliad Bevan yn canolbwyntio ar faterion sy’n ymwneud ag anghyfiawnder, tlodi ac allgáu, a chyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru. Mae'n llunio adroddiadau swmpus sydd ar gael i'w lawrlwytho am ddim o'i wefan. Mae enghreifftiau diweddar yn cynnwys astudiaeth ar ddyfodol y sector gwirfoddol yng Nghymru a'r ail draethawd mewn cyfres o draethodau ar Senedd Cymru, sy'n edrych ar rôl newidiol pwyllgorau'r Cynulliad.
Mae dau brif sefydliad academaidd yn gwneud gwaith ar Gymru, ac mae llawer o'r gwaith hwn ar gael yn gyhoeddus:
Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnal ymchwil i’r gyfraith, gwleidyddiaeth, llywodraeth ac economi wleidyddol Cymru, yn ogystal â chyd-destunau llywodraethu tiriogaethol ehangach y DU ac Ewrop Yn ogystal â llunio llyfrau a phapurau academaidd, mae gwefan y Ganolfan yn cynnwys gwybodaeth a deunydd ar ddarlithoedd, cyfarfodydd cyhoeddus a digwyddiadau a gynhelir ganddi.
Mae Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru, a ariennir gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol y DU ers 2008, yn cynnal gwaith ymchwil a hyfforddiant ym maes y gwyddorau cymdeithasol sy'n berthnasol i Gymru. Sefydliad cydweithredol ydyw rhwng pum prifysgol yng Nghymru; mae cyhoeddiadau ac adroddiadau gan ei aelodau a'i aelodau cyswllt ar gael ar y wefan.
Mae Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin a Gwasanaeth Ymchwil y Senedd yn cynnwys toreth o bapurau briffio a gwybodaeth o ansawdd uchel ar nifer o agweddau ar ddatganoli.