Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4 Egwyddorion craidd cyffredin

Mae Sgiliau Gofal [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] a Sgiliau Iechyd yn ddau sefydliad sy'n cynnig datblygiad a dysgu i'r gweithlu yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol o dan fantell Sgiliau Gofal a Datblygu. Y sefydliadau eraill yw:

Dylai cyflogwyr plant a'r blynyddoedd cynnar gysylltu â Sgiliau Gofal a Datblygu.

Mae'r sefydliadau hyn yn cydnabod, er bod angen i bobl sy'n agosáu at ddiwedd eu hoes gael gofal a chymorth arbenigol yn aml, mae pobl nad ydynt yn arbenigwyr sy'n cymryd rhan mewn gofal cymdeithasol a gofal iechyd yn gweld eu bod yn gweithio mwy a mwy gyda phobl sy'n marw. Er enghraifft, efallai y bydd gofalwyr teuluol a gofalwyr mewn cartrefi preswyl ar gyfer pobl hŷn yn gofalu am bobl ar ddiwedd eu bywydau.

Efallai eich bod wedi sylwi bod gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn cwmpasu egwyddorion pwysig: dull cyfannol sy'n canolbwyntio ar y person, er enghraifft. Yn y gweithgaredd nesaf, byddwch yn astudio'r saith egwyddor craidd (Sgiliau Iechyd a Sgiliau Gofal, 2014), sy'n sail i ofal diwedd oes. Mae'r egwyddorion hyn yn rhoi fframwaith ar gyfer ymarferwyr sy'n darparu gofal diwedd oes. Bydd cwblhau'r gweithgaredd yn rhoi'r wybodaeth angenrheidiol i chi ddeall y prosesau sy'n effeithio ar bobl sydd wedi cyrraedd diwedd eu bywydau.

Gweithgaredd 4

Timing: Dylech neilltuo tua 25 munud

Darllenwch y saith egwyddor craidd isod.

Pan fyddwch wedi gorffen, gwnewch nodyn byr o sut y gallai pob egwyddor effeithio ar ofal diwedd oes ar gyfer unigolyn.

Egwyddor 1

Caiff gofal a chymorth eu cynllunio a'u darparu mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y person gyda blaenoriaethau'r person, yn cynnwys anghenion ysbrydol, emosiynol a diwylliannol, yn llywio pob penderfyniad a gweithred.

Egwyddor 2

Mae'r cyfathrebu yn syml, yn briodol ac yn amserol a chaiff ei gyflwyno mewn modd sensitif, gan ystyried amgylchiadau, anghenion a galluoedd y person a'i ofalwyr. Mae cyfathrebu yn adlewyrchu dealltwriaeth o anghenion diwylliannol ac ysbrydol y person a pharch tuag atynt.

Egwyddor 3

Darperir gofal diwedd oes drwy weithio integredig, gydag ymarferwyr yn cydweithredu er mwyn sicrhau gofal a chymorth di-dor ar y pwynt cyflenwi. Caiff anghenion eu diwallu mewn ffyrdd sy'n briodol i'r person, yn hytrach na'i fod wedi arwain gan y gwasanaeth. Mae gweithwyr yn cyfathrebu'n barhaus er mwyn sicrhau y caiff gofal a chymorth ei gydgysylltu'n briodol a'i fod yn ymatebol i amgylchiadau a blaenoriaethau newidiol.

Egwyddor 4

Rhoddir gwybodaeth dda, glir a syml i bobl a'u gofalwyr.

Egwyddor 5

Mae adolygiadau rheolaidd a chyfathrebu effeithiol yn sicrhau bod gofal a chymorth yn ymatebol i anghenion ac amgylchiadau newidiol pobl a'u gofalwyr.

Mae blaengynllunio, yn cynnwys cynllunio gofal ymlaen llaw, yn hwyluso gofal a chymorth wedi'i gydgysylltu, ei drefnu a'i ddarparu'n dda.

Egwyddor 6

Caiff anghenion a hawliau gofalwyr eu cydnabod a'u gweithredu. Cynigir cymorth i ofalwyr tra byddant yn gofalu ac yn ystod profedigaeth. Mae cyflogwyr yn cydnabod y ffyrdd yr effeithir ar weithwyr pan fyddant yn gofalu am rywun sy'n marw, ac yn cynnig arweiniad a chymorth priodol.

Egwyddor 7

Mae cyflogwyr yn rhoi cyfleoedd dysgu a datblygu priodol i weithwyr er mwyn sicrhau eu bod mewn sefyllfa briodol i ddelio â phobl sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes. Caiff gweithwyr eu hannog i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain.

(Ffynhonnell: Sgiliau Iechyd a Sgiliau Gofal, 2014)
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Yn gryno, mae'r egwyddorion fel a ganlyn:

  1. gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
  2. cyfathrebu
  3. gweithio integredig
  4. darparu gwybodaeth
  5. cynllunio a gwerthuso
  6. hawliau i ofalwyr
  7. paratoi'n briodol.

Mae'r egwyddorion hyn yn adlewyrchu'r sgiliau a fydd yn eich galluogi i ddarparu gofal ar gyfer y person sy'n marw sy'n cyfrannu at farwolaeth dda.

Felly, sut hwyl gawsoch chi wrth nodi sut y gallai'r egwyddorion effeithio ar ofal diwedd oes unigolyn? Dyma rai nodiadau cryno sy'n atebion posibl i'r cwestiwn gweithgaredd.

  • Egwyddor 1: Mae'r person sy'n derbyn gofal yn dewis ble y mae am farw – gartref neu mewn ysbyty neu hosbis.
  • Egwyddor 2: Mae'r person sy'n derbyn gofal yn cael lleisio ei farn ynghylch ei ddymuniadau a'i ddewisiadau.
  • Egwyddor 3: Mae'r holl ofalwyr cyflogedig a di-dâl yn siarad â'i gilydd.
  • Egwyddor 4: Mae'r gofalwyr yn agored ac yn onest â'i gilydd a'r person sy'n derbyn gofal.
  • Egwyddor 5: Wrth i anghenion newid, mae'r gofal yn ymateb.
  • Egwyddor 6: Bydd y gofalwyr yn cael gofal hefyd.
  • Egwyddor 7: Caiff y gofalwyr eu hyfforddi a'u cefnogi.