Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Hyrwyddo annibyniaeth

Ystyr hyrwyddo annibyniaeth yw helpu person i gyflawni ei botensial llawn a gwneud cymaint â phosibl drosto'i hun.

Bydd y pwnc hwn yn eich helpu i gydnabod bod y cysyniad o annibyniaeth yn amrywio o berson i berson ac i werthfawrogi'r effaith a gaiff annibyniaeth ar fywyd bob dydd.

Bywyd a werthfawrogir yw pan roddir parch, urddas a phreifatrwydd i berson gan ei helpu i wneud ei ddewisiadau ei hun am beth sy'n digwydd iddo. Bydd y pwnc hwn yn eich helpu i ddeall hyn, fel y gallwch helpu'r bobl rydych yn gofalu amdanynt drwy gael ymwybyddiaeth well o'r rôl y gall cymryd risgiau cadarnhaol ei chael wrth eu helpu i gael neu gadw eu hannibyniaeth.

Disodlodd y Ddeddf Gofal, a ddaeth i rym yn Lloegr ym mis Ebrill 2015, y rhan fwyaf o'r deddfau presennol mewn perthynas â gofalwyr a phobl sy'n derbyn gofal, gan roi rhwymedigaethau newydd ar awdurdodau lleol. Un o'r rhain yw dyletswydd gyffredinol i hyrwyddo lles unigolyn. Mae hyn yn golygu y dylai bob amser ystyried lles pobl wrth wneud penderfyniadau amdanynt neu gynllunio gwasanaethau. Mae'r term 'lles' yn cynnwys:

  • urddas personol (yn cynnwys trin yr unigolyn â pharch)
  • iechyd corfforol a meddyliol a lles emosiynol
  • amddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod
  • rhoi rheolaeth i'r unigolyn o'i fywyd bob dydd (yn cynnwys dros ei ofal a'i gymorth)
  • cyfranogi mewn gwaith, addysg, hyfforddiant neu hamdden
  • lles cymdeithasol ac economaidd
  • cydberthnasau domestig, teuluol a phersonol
  • addasrwydd y llety byw
  • cyfraniad yr unigolyn i gymdeithas.

Mae'n rhaid i'r awdurdodau lleol ystyried effaith eich rôl fel gofalwr ar eich lles. Yn yr un modd, mae'n rhaid iddynt ystyried effaith anghenion person anabl ar ei les.

Yng Nghymru, daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym ym mis Ebrill 2016. Mae'r diffiniad o les yn gyffredinol yr un fath â'r diffiniad a geir yn Neddf Gofal Lloegr.

Definition of well-being from the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014:

  • a.iechyd corfforol a meddyliol a lles emosiynol
  • b.amddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod
  • c.addysg, hyfforddiant a hamdden
  • d.cydberthnasau domestig, teuluol a phersonol.
(Ffynhonnell: Cymru. Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, t. 13)

Ond, yn wahanol i Ddeddf Gofal Lloegr, mae hefyd yn cynnwys rhai agweddau ar ddeddfwriaeth plant.

Mewn papur a gyhoeddwyd gan Scope, Our Support, Our Lives [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (Davies, 2015), am yr hawl i fyw'n annibynnol, cawn wybod bod a wnelo gofal cymdeithasol â mwy na dim ond y nodweddion sylfaenol a bod yn rhaid iddo alluogi pobl anabl i fyw bywydau annibynnol llawn, gan sicrhau eu bod yn ganolbwynt i'w gofal eu hunain. Mae'r cysyniad hwn yn gymwys i unrhyw un sy'n cael gofal, nid dim ond pobl ag anableddau, ac mae Scope yn dweud bod hyn yn allweddol er mwyn gallu cyflawni'r egwyddorion lles a amlinellir yn y Ddeddf Gofal.

Er bod yr adroddiad hwn yn gysylltiedig â gwasanaethau yn Lloegr, mae egwyddorion yr adroddiad hefyd yn gymwys i Gymru.

Y ddolen canlynol gan Anabledd Cymru yn ddefnyddiol yn y maes hwn:

http://www.disabilitywales.org/ social-model/ independent-living/

Gweithgaredd 4

Timing: Dylech neilltuo tua 10 munud

Beth mae annibyniaeth yn ei olygu i chi?

Meddyliwch am y datganiad hwn, ac ysgrifennwch frawddeg isod ynghylch beth mae annibyniaeth yn ei olygu i chi.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Mae'r rhan fwyaf o ddiffiniadau o annibyniaeth yn dweud rhywbeth fel 'the ability to live your life without being helped or influenced by other people' (Cambridge Dictionaries ar-lein, 2016).

Nawr, ystyriwch hyn:

Pe byddech yn colli eich annibyniaeth, beth fyddech chi'n ei golli fwyaf?

Ysgrifennwch y tri pheth y byddech yn eu colli fwyaf pe byddech yn colli eich annibyniaeth.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Pan wnaethoch chi ateb y cwestiwn gallech fod wedi meddwl sut fyddai colli eich annibyniaeth yn effeithio arnoch chi fwyaf a phwy arall y byddai'n effeithio arnynt, e.e. gŵr/gwraig/mam/tad/aelodau eraill o'r teulu.

Ydych chi'n meddwl y byddech yn teimlo'n unig, yn analluog, fel plentyn neu fabi eto?

Efallai eich bod hefyd wedi ystyried beth y byddech yn colli ei wneud fwyaf. Rydym yn cymryd llawer o weithgareddau bob dydd yn ganiataol, fel gallu codi a pharatoi ar gyfer y dydd pan fyddwn am wneud hynny neu pan fydd angen i ni wneud hynny. Neu allu dewis sut rydym yn treulio ein hamser hamdden.

Ystyriwch sut y gallai colli annibyniaeth wneud i rywun deimlo, ynghyd â chael eu gwahanu oddi wrth weddill cymdeithas – gallai'r effaith fod yn aruthrol.

Ffigur 1 Beth mae annibyniaeth yn ei olygu i bobl ag anableddau neu gyflyrau sy'n gwneud iddynt ddibynnu ar eraill

Daw'r dyfyniadau yn Ffigur 1 o gyfarfod Rhwydwaith Gweithredu Cwsmeriaid yn Leonard Cheshire Disability pan ofynnwyd i gyfranogwyr beth mae annibyniaeth yn ei olygu iddynt. Mae'r rhain yn bethau y mae'r rhan fwyaf ohonom yn eu cymryd yn hollol ganiataol, ond ar gyfer pobl sy'n byw ag anableddau neu gyflyrau eraill sy'n golygu eu bod yn ddibynnol ar eraill, dyna sut maent yn diffinio annibyniaeth.

Edrychwch ar beth y gall rhywun sydd ag anabledd sylweddol ei gyflawni gyda'r cymorth cywir. Meistrolodd Ray De Grussa sut i ddefnyddio meddalwedd gyfrifiadurol arbenigol i gyflawni ei uchelgais o gyfansoddi cerddoriaeth. Cafodd wobr yn yr Wythnos Addysg Oedolion yn 2012 ond ei wir wobr oedd ei fod yn gallu cyflawni ei uchelgais o'r diwedd.