Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.2 Pobl neu dechnoleg?

Mae rhai elusennau anabledd, fel Sue Ryder [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , yn cynnig rhaglenni 'ailalluogi' sydd â'r nod o helpu pobl sy'n byw â chyflyrau dirywiol, fel sglerosis ymledol, neu sydd wedi cael strôc. Mae rhaglenni fel y rhain yn cynnig help ymarferol i ddiwallu anghenion penodol pob cyfranogwr.

Mae sefydliadau fel Reablement UK hefyd yn cynnig hyfforddiant a chymorth i staff gofal, gan roi'r wybodaeth a'r sgiliau iddynt weithio gyda phobl er mwyn eu helpu i adfer eu sgiliau hunanofal a bod mor annibynnol â phosibl.

Fodd bynnag, gwneir y rhan fwyaf o waith ail-alluogi yng Nghymru drwy awdurdodau lleol a byrddau iechyd. Gall yr adroddiad hwn fod o ddiddordeb yn y maes hwn:

http://www.royalvoluntaryservice.org.uk/ Uploads/ Documents/ Reports%20and%20Reviews/ getting_back_on_your_feet_reablement_in_wales_report.pdf

Diffiniadau o dechnoleg gynorthwyol

Ceir dryswch a chamddealltwriaeth o'r term 'technoleg gynorthwyol' ar bob lefel – ac nid yw hyn yn peri syndod. Mae'r dechnoleg yn datblygu mor gyflym fel bod hyd yn oed y gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n gyfrifol am ragnodi technoleg gynorthwyol yn cyfaddef yn agored nad ydynt yn ymwybodol o beth sydd ar gael ar y farchnad ar hyn o bryd.

Fodd bynnag, gwnaed rhywfaint o ymdrech i geisio diffinio technoleg gynorthwyol a beth y gall ei wneud. Dyma ddwy enghraifft: daw'r enghraifft gyntaf o lenyddiaeth gwerthu RSLSteeper, cwmni sy'n darparu cyfarpar technoleg gynorthwyol:

Ystyr Technoleg Gynorthwyol yw unrhyw ddyfais sy'n helpu person llai abl i wneud rhywbeth y mae person mwy abl yn gallu ei wneud eisoes.

(Ffynhonnell: AZO Robotics, 2016)

Daw'r ail ddiffiniad o ymgynghoriad grŵp defnyddwyr yn y King's Fund yn 2001:

Ystyr Technoleg Gynorthwyol yw unrhyw gynnyrch neu wasanaeth sydd wedi'i gynllunio er mwyn sicrhau annibyniaeth ar gyfer pobl anabl a phobl hŷn.

(Ffynhonnell: King’s Fund, 2001)

Er bod y diffiniadau hyn yn gywir, nid ydynt yn helpu i egluro'r amrywiaeth eang o dechnoleg sy'n bodoli, ei gwahanol bwrpasau na beth sydd angen iddi ei wneud i weithio'n effeithiol.

Beth rydym yn ei wybod yw y gall technoleg gynorthwyol gael effaith gadarnhaol enfawr ar fywyd rhywun, fel y gwelwch o'r astudiaeth achos ganlynol.

Astudiaeth achos: Beverley Glover

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 4 Beverley Glover a'i thechnoleg

Mae Beverley Glover yn gefnogwr brwd o dechnoleg gynorthwyol. Mae'n defnyddio ei dyfais i agor ei drysau, ffenestri, llenni, i godi a gostwng ei gwely, i reoli ei theledu, DVX a gwyntyll, i ffonio ei merched a, thros gyfnod y Nadolig, mae'n defnyddio ei theclyn rheoli lamp i droi goleuadau ei choeden Nadolig ymlaen!

Mae hefyd yn defnyddio dyfais gyfathrebu pan fydd allan o'r tŷ, sy'n helpu pobl i'w deall.

Prynodd Bev ei chyfarpar yn annibynnol, ond cafodd ei hasesu gan wasanaeth rhanbarthol arbenigol yng ngogledd-orllewin Lloegr sydd bellach yn darparu ei chyfarpar, yn ei gynnal ar ei chyfer ac yn ychwanegu darnau o gyfarpar trydanol pan fydd ei angen arni – i gyd am ddim.