Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.2 Llunio cynllun gofal brys

Er mwyn llunio cynllun gofal brys da ac effeithiol, mae angen cael y wybodaeth gywir am y person sy'n derbyn gofal, a chyfathrebu'r wybodaeth hon mewn ffordd y gall pawb ei deall. Bydd y gweithgaredd nesaf yn eich helpu i ymarfer cyfathrebu gwybodaeth am berson sy'n derbyn gofal yn gryno ac yn gywir, felly, os bydd angen i ofalwr neu weithiwr proffesiynol arall gymryd camau gweithredu, gall ddibynnu ar y wybodaeth yn y cynllun er mwyn cael gwybod beth i'w wneud.

Gallwch gyflawni'r gweithgaredd fel gofalwr ar gyfer person penodol neu, os nad ydych yn ofalwr, gallwch ddychmygu rhywun y gallech fod yn cynllunio ar ei gyfer.

Gweithgaredd 11

Timing: Dylech neilltuo tua 10 munud

Disgrifiwch yn gryno ddiagnosis y person sy'n derbyn gofal a'i ddealltwriaeth ohono. Er enghraifft, 'mae gan y person ddementia ac nid yw'n deall na all fynd allan o'r tŷ ar ei ben ei hun'.

  • Pa feddyginiaeth reolaidd y mae'r person yn ei chymryd?
  • Pa feddyginiaeth yn ôl yr angen (neu PRN) y mae'r person yn ei chymryd?
  • A oes unrhyw feddyginiaeth ar gyfer defnydd brys ac, os felly, lle y caiff ei chadw?
  • A oes unrhyw ofal nad yw'r person am ei gael? (Gallai peidio â'i ddadebru fod yn enghraifft o hyn.)
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Mae'n eithaf anodd bod yn gryno wrth geisio crynhoi personoliaeth unigolyn, ei anghenion, ei ddewisiadau a'i fywyd bob dydd. Fodd bynnag, dylid cofio bod hyn ar gyfer cynllun gofal brys lle y gellir cyfathrebu darnau bach o wybodaeth gywir yn well na darnau mawr o wybodaeth nad yw mor ddefnyddiol mewn sefyllfa frys.

Y ffordd symlaf o restru meddyginiaeth yw copïo cyfarwyddiadau a roddir gan bresgripsiwn y fferyllydd neu feddyg. Gallai hyn hefyd fod ar y blwch neu botel o feddyginiaeth os yw ar gael. Gwnewch yn siŵr ei bod yn cael ei diweddaru.

Nid oes llawer o bobl yn hoffi gwneud dewisiadau sy'n ymwneud â bywyd a marwolaeth ond weithiau, fel gyda gofal diwedd oes, efallai na fydd y triniaethau sydd ar gael er budd gorau i'r person sy'n derbyn gofal. Mewn sefyllfaoedd eraill, efallai y byddai'n well gan y person sy'n derbyn gofal, sydd â phroblemau iechyd meddwl, er enghraifft, beidio â chael ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans.

Mae'n werth ystyried pa gamau gweithredu sy'n bosibl a'r canlyniadau posibl. Efallai y bydd angen trafod hyn â gweithwyr proffesiynol hefyd.

Gwaith paratoi cychwynnol oedd Gweithgaredd 11, a roddodd wybodaeth gefndir hanfodol am y person sy'n derbyn gofal y gellir ei deall yn gyflym mewn argyfwng. Unwaith y bydd cynllun gofal brys wedi'i gadarnhau, dylid ei rannu â'r sawl sy'n debygol o gael eu galw, yn cynnwys perthnasau, cymdogion a gweithwyr proffesiynol. Dylid bod wedi ymgynghori ag unrhyw un y caiff ei rannu â nhw.

Nawr, hoffem i chi feddwl beth i'w wneud os bydd achos brys yng nghartref y person sy'n derbyn gofal. Gellir rhagweld rhai achosion brys a pharatoi ar eu cyfer. Ymysg yr enghreifftiau o achosion brys y gellir eu rhagweld mae:

  • person â dementia yn gadael nwy hob y popty ymlaen
  • person â dementia yn mynd ar goll
  • oedolyn ifanc ag anableddau dysgu yn cael trawiad epileptig
  • unigolyn yn anghofio cymryd ei feddyginiaeth ar gyfer diabetes.

Wrth gwrs, mae achosion brys eraill yn annisgwyl, ond gellir gwneud cynlluniau ar eu cyfer o hyd. Yn y gweithgaredd nesaf, byddwch yn ystyried achosion brys y gellir eu rhagweld ar gyfer person sy'n derbyn gofal (neu berson dychmygol os yw'n briodol).

Gweithgaredd 12

Timing: Dylech neilltuo tua 20 munud

Meddyliwch am berson sy'n derbyn gofal rydych yn ei adnabod. Myfyriwch ar ble mae'r person sy'n derbyn gofal yn byw a'r rhesymau pam mae'n derbyn gofal.

  1. Beth yw'r achosion brys y gellir eu rhagweld y gall fod angen gwneud cynllun ar eu cyfer?
  2. A yw'r person sy'n derbyn gofal yn ymwybodol o'r achosion brys posibl?
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Nesaf, dewiswch un achos brys posibl a:

  1. Disgrifiwch yn fras beth yw'r achos brys posibl.
  2. Sut y gellir gwybod bod yr achos brys yn digwydd?
  3. A ddylid ffonio am help, er enghraifft ambiwlans, ar unwaith?
  4. Pa gamau cymorth cyntaf y gellir eu cymryd, os oes angen?
  5. A oes rhywun agos y gellir ei ffonio i gael help ychwanegol?
  6. Os bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cyrraedd, pa help y dylent ei roi, gyda'r peth pwysicaf ar frig y rhestr?

Mae'r dolenni isod yn arwain at enghraifft o gynllun gofal brys Milton Keynes Carers Trust a'r cyfarwyddiadau ar sut i'w gwblhau. Os hoffech, gallwch ddefnyddio'r rhain i'ch helpu i gwblhau'r gweithgaredd hwn.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Mae'r hyn sy'n cael ei gyfrif yn achos brys yn dibynnu'n helaeth ar anghenion y person sy'n derbyn gofal a'r math o ofal a roddir a'i lefel. Ar gyfer un person, gallai olygu sicrhau ei fod yn ddiogel pan gaiff drawiad epileptig; ar gyfer person arall, gallai olygu lefelau afreolaidd o glwcos yn y gwaed. Ar gyfer llawer o bobl mewn gofal, gellir rhagweld achosion brys posibl. Yn aml, ceir dangosyddion clir bod achosion brys yn digwydd, fel mynd i mewn ac allan o ymwybyddiaeth. Gellir disgrifio cyfarwyddiadau ar gyfer sefyllfaoedd lle mae angen ffonio am help mewn brawddeg gryno.

Os oes angen cymorth cyntaf, yna, wrth gwrs, dylid rhoi hyfforddiant i'r person sy'n rhoi help a gynlluniwyd ar gyfer beth bynnag sydd ei angen, a dylid ystyried hyn wrth ymgynghori ar y cynllun.