Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.2 Gofalwyr di-dâl

Yn ôl Ymddiriedolaeth y Gofalwyr [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , elusen sy'n gweithio er mwyn gwella gwasanaethau a chymorth i ofalwyr di-dâl, mae tua 7 miliwn o ofalwyr yn y DU, ac mae 1.4 miliwn ohonynt yn darparu mwy na 50 awr o ofal di-dâl bob wythnos. Mewn arolwg a gynhaliwyd gan yr elusen, dim ond ar ôl iddynt gael gwybod bod yr help hwn ar gael iddynt y gwnaethant ofyn amdano.

Dywedodd Anne Roberts (2012), Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr y DU: 'Fel y mae'r arolwg hwn yn dangos, nid oes llawer o ofalwyr di-dâl erioed wedi manteisio ar unrhyw wasanaethau cymorth i'w helpu yn eu rôl ofalu. Rydym eisoes yn gwybod nad oes gan lawer o ofalwyr unrhyw ymwybyddiaeth o'r math o help sydd ar gael iddynt a'r gwahaniaeth enfawr y gallai ei wneud i'w bywydau.'

Gall ceisio cyflawni cyfrifoldebau gofalu heb gymorth arwain at broblemau difrifol a all effeithio ar fywydau gwaith gofalwyr a'u hiechyd meddwl a chorfforol. Mae stori Norman yn enghraifft o'r hyn a all ddigwydd.

Astudiaeth achos: Norman

Bu'n rhaid i Norman roi'r gorau i weithio yn 2008 pan oedd yn 56 oed er mwyn dod yn ofalwr llawn amser i'w wraig, Linda, sydd â sglerosis ymledol. Mae'n egluro: 'Roeddwn yn cael trafferth cynnal fy swydd a cheisio sicrhau bod fy ngwraig yn ddigon diogel i'm galluogi i fynd allan i weithio. Oherwydd y pwysau arnaf, dirywiodd fy iechyd fy hun. Oherwydd y straen o orfod rheoli swydd heriol ac ymdopi ag anghenion Linda, bu'n rhaid i mi gael fy nerbyn i uned y galon yn ein hysbyty lleol.

'Doedd gen i ddim dewis. Bu'n rhaid i mi roi'r gorau i'm swydd a dod yn ofalwr llawn amser. Cafodd effaith y dewis hwn oblygiadau ariannol difrifol ac arweiniodd hyn at iselder a'r ymdeimlad fy mod wedi datblygu o fod yn berson i fod yn adnodd a elwir yn "ofalwr". Roeddwn yn anweledig.

'Pan gysylltais â'm canolfan gofalwyr leol i ddechrau, siaradais â Gweithiwr Cymorth Gofalwyr ac, am y tro cyntaf mewn sawl blwyddyn, roedd rhywun yn barod i wrando arnaf yn hytrach na chynnig yr un sylw ag arfer "ond mae'n llawer gwaith i'ch gwraig oherwydd ei salwch". Helpodd y ganolfan gofalwyr fi i adfer fy hunan-barch a'm hyder ac rwyf bellach yn falch o'r hyn rwy'n ei wneud i ofalu am Linda.'

(Ffynhonnell: Yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, 2012)

Yn y pwnc hwn, rydych wedi dysgu nad yw'r syniad o allu sicrhau cydbwysedd perffaith rhwng gwaith a gweddill eich bywyd yn realistig, a gall hyn achosi mwy o straen i bobl sy'n ceisio cyflawni disgwyliadau nad ydynt yn realistig.

Er hyn, gellir ceisio sicrhau cydbwysedd gwell yn eich bywyd, rhwng eich gwaith a gweddill eich bywyd. Bydd hyn yn eich helpu i gael ansawdd bywyd y gallwch ei reoli heb wneud eich hun yn sâl yn gorfforol neu'n feddyliol. Ond, ni ellir cyflawni hyn heb help, a gwyddom bellach bod gan gyflogeion hawliau a fydd yn eu helpu i gyflawni'r cydbwysedd hwn. Mae cymorth ar gael i ofalwyr di-dâl hefyd, er bod llawer ohonynt yn llai ymwybodol o'r math o help y gallant ei ddisgwyl.