Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cefnogi datblygiad plant
Cefnogi datblygiad plant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Sut y gwnaethoch chi ddysgu sut i ddarllen?

Mae gallu gwneud cysylltiadau rhwng eich astudiaethau, eich profiadau eich hun a beth rydych yn ei wneud yn yr ystafell ddosbarth yn rhan bwysig o ddod yn ymarferydd myfyriol ac o ddatblygu eich sgiliau proffesiynol.

Ceir rhagor o wybodaeth ar y cwrs OpenLearn am ddim ‘Learning to teach; becoming a reflective practitioner’.

http://www.open.edu/ openlearn/ education/ learning-teach-becoming-reflective-practitioner/ content-section-0?active-tab=description-tab [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]

Mae'r gweithgaredd nesaf yn gofyn i chi ystyried sut beth yw bod yn blentyn sy'n dysgu sut i ddarllen.

Gweithgaredd 5

Meddyliwch yn ôl i pan oeddech yn blentyn a sut y gwnaethoch chi ddysgu sut i ddarllen.

  • Sut y cawsoch eich annog i ddarllen?
  • A oeddech yn mwynhau darllen neu a oeddech yn ei chael hi'n anodd?
  • Pa fathau o lyfrau oeddech chi'n eu hoffi neu nad oeddech chi'n eu hoffi?
  • Allwch chi gofio beth oedd eich hoff lyfr?
  • Ai dim ond llyfrau oeddech chi'n eu darllen?
  • A yw merched yn darllen mwy na bechgyn yn eich barn chi?
  • A yw bechgyn yn darllen llyfrau gwahanol i ferched?

Bydd gan bawb eu hatebion eu hunain i'r cwestiynau hyn. Gall eich profiad eich hun o ddysgu sut i ddarllen effeithio ar sut rydych yn annog y plant yn eich gofal i ddarllen.