Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cefnogi datblygiad plant
Cefnogi datblygiad plant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.2 Cefnogi datblygiad cymdeithasol ac emosiynol plant

Gall y strategaethau a ddefnyddir gan gynorthwywyr addysgu i helpu plant ag AAA gael effaith ddirfawr ar ddatblygiad cymdeithasol ac emosiynol y plentyn. Felly, mae'n bwysig bod gan gynorthwywyr addysgu ddealltwriaeth o effaith bosibl eu gweithredoedd. Mae myfyrio ar eich ymarfer eich hun ac yna trafod eich meddyliau a'ch syniadau â chydweithwyr eraill yn ffordd dda o ddatblygu eich ymwybyddiaeth o'r hyn rydych yn ei wneud.

Gweithgaredd 8

Timing: Caniatewch tua 20 munud

Bydd y ddolen isod yn eich arwain at gwestiynau a fydd yn eich helpu i fyfyrio ar y strategaethau a ddefnyddir gennych wrth weithio'n uniongyrchol â phlant ag AAA yn yr ystafell ddosbarth.

Efallai y gallwch ofyn i gydweithiwr eich arsylwi am gyfnod byr a rhoi adborth i chi ar eich perfformiad. Gall hyn dynnu eich sylw at bethau rydych yn eu gwneud yn ddiarwybod i chi.

Gadael sylw

Gall rhoi llais i blentyn ag AAA a chael ei farn ar faterion helpu drwy beidio â gwneud rhagdybiaethau ynghylch beth mae'r plentyn yn ei hoffi neu beth nad yw'n ei hoffi, a beth mae am ei gael. Hefyd, bydd helpu'r plentyn i feithrin cyfeillgarwch a chydberthnasau â chyfoedion, a rhoi cyfleoedd cymdeithasol iddo yn ei helpu i ddatblygu annibyniaeth ar gyfer y dyfodol a hunanddelwedd gadarnhaol.

Mae'r 'awgrymiadau defnyddiol' canlynol gan bobl ifanc anabl yn dangos beth sy'n bwysig iddynt:

  • Cymorth achlysurol: rhoi cymorth i ni pan fydd ei angen arnom ond symud i ffwrdd pan fyddwn yn iawn.
  • Ein hannog i fod yn annibynnol. Sicrhau ein bod yn cael amser gyda'n cyfoedion pan fo'n bosibl.
  • Gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn grwpiau bach, yn hytrach nag yn unigol, lle y bo'n bosibl.
  • Gadael i ni ddweud pan fydd angen cymorth arnom neu pan fyddwn am gael cymorth, yn hytrach na bod gyda ni drwy'r amser.
(Y Gynghrair Gwrthfwlio, 2015b)