Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.1 Cysylltu deilliannau dysgu, gweithgareddau ac adnoddau

Mae Prifysgol De Cymru Newydd Sydney (2017) yn darparu tabl defnyddiol iawn sy’n casglu ynghyd themâu cyffredin deilliannau dysgu, y mathau o weithgareddau a ddefnyddir yn aml gyda dysgwyr i gyflawni’r deilliannau hynny, a rhai technolegau ar-lein a allai fod yn ddefnyddiol ar gyfer pob un. Mae fersiwn olygedig o’r tabl hwn yn sail i Weithgaredd 5 isod.

Gweithgaredd 5 Amlygu technolegau y gallech eu defnyddio

Timing: Caniatewch oddeutu 45 munud

Dechrau’r CwestiwnDarllenwch y tasgau gweithgaredd isod ac yna archwiliwch y tabl sy’n dilyn.

  1. Pa adnoddau ac arferion cysylltiedig a ddangosir yn y tabl ydych chi neu’ch dysgwyr (hyd y gwyddoch chi) yn eu defnyddio ar hyn o bryd mewn cyd-destun addysgu a/neu ddysgu? Treuliwch ychydig funudau yn unig yn llunio rhestr.
  2. Hyd y gwyddoch chi, y tu allan i’r amgylchedd addysgu, pa adnoddau y mae’ch dysgwyr yn eu defnyddio (neu ba rai y byddech yn tybio eu bod yn eu defnyddio) i fynegi eu hunain, archwilio a chwarae? Lluniwch restr, unwaith eto.
  3. Pa rai o’r adnoddau ar eich dwy restr uchod sy’n gymdeithasol? Rhowch seren wrth ymyl yr adnoddau y byddech yn eu disgrifio’n gymdeithasol.
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).
Tabl 1 Deilliannau dysgu a dewis adnoddau technoleg
Deilliannau dysgu a ddymunir (‘beth?’) Sail resymegol (‘pam?’) Gweithgareddau perthnasol (‘sut?’) Adnoddau technolegol posibl

Llythrennedd gwybodaeth.

Ymarfer byd-eang.

Llythrennedd digidol.

Ymarfer moesegol.

Paratoi ar gyfer llwyddo.

Amlygiad i’r elfennau allanol canlynol, ymwybyddiaeth ohonynt, cyfraniad atynt:

  • gweithgarwch
  • sgyrsiau
  • adnoddau
  • technegau a dulliau.

Cyfeirnodi’n briodol.

Adnoddau priodol unigolyn graddedig yn yr 21ain ganrif.

Rheoli llwyth gwybodaeth.

Gwerthuso amlddimensiwn.

Rhannu ac adolygu adnoddau ar-lein.

Cysylltu ag arbenigwyr/cymunedau allanol.

Gwirio am lên-ladrad.

Creu/cyfuno cyfryngau.

Adrodd straeon digidol.

Trafodaethau ar hawlfraint.

Gweithgareddau sy’n berthnasol ac yn ddilys i’r ddisgyblaeth.

Gweithgareddau ymgorfforedig ar gyfer priodweddau generig.

Anogion cyd-destunol i werthuso ffynonellau.

Ffrydiau RSS/cydgasglwyr.

Blogiau.

Atal llên-ladrad (e.e. Turnitin).

Rhannu cyflwyniadau (e.e. SlideShare).

Rhannu fideo (e.e. YouTube, Vimeo).

Podledu.

Platfformau dysgu ar-lein/o bell (e.e. Blackboard Collaborate, Adobe Connect).

Sgrinledu.

Dysgu hunangyfeiriedig.

Ymarfer myfyriol.

Dysgu ymgysylltiol.

Cyd-ddysgu.

Amgylchedd a phrofiad dysgu o ansawdd.

Cyd-drafod dealltwriaeth.

Adborth ar y cwrs.

Myfyrio ar ddysgu.

Ymarfer byd-eang.

Cysondeb profiad.

Dysgu seiliedig ar broblem/achos.

Mynediad hyblyg at ddeunydd.

Cynllunio a rheoli prosiectau.

Hunanbrofion myfyrwyr.

Yr athro/athrawes (a’r dechnoleg) fel hwylusydd dysgu.

Dewis o foddau a gweithgareddau.

Mynediad at dechnoleg (e.e. dyfeisiau symudol).

Cod ymddygiad cytunedig.

Wicis.

Cwis/arolwg.

Darlithiau wedi’u recordio.

Rhannu fideo (e.e. YouTube, Vimeo).

Podledu.

Dysgu symudol (e.e. ffôn clyfar, tabled).

Platfformau dysgu ar-lein/o bell (e.e. Blackboard Collaborate, Adobe Connect).

Rhoi a derbyn adborth.

Safbwyntiau lluosog.

Adborth ar berfformiad.

Ysgrifennu ar y cyd.

Cyd-drafod a chynllunio fel grŵp.

Asesu gwaith tîm.

Adolygu (e.e. gwaith grŵp).

Cyhoeddi.

Myfyrio.

Wicis.

Blogiau.

Fforwm trafod.

Adolygu gan gymheiriaid (e.e. trwy fforwm).

Platfformau dysgu ar-lein/o bell (e.e. Blackboard Collaborate, Adobe Connect).

Sgrinledu.

Gweithio mewn timau.

Ymarfer cydweithredol.

Cyd-drafod dealltwriaeth.

Safbwyntiau lluosog (ar gyfer yr athro/athrawes).

Rheoli gwaith grŵp.

Llythrennedd digidol.

Cynwysoldeb.

Ysgrifennu ar y cyd.

Cyd-drafod a chynllunio fel grŵp.

Cynllunio a rheoli prosiectau.

Dysgu wedi’i seilio ar broblem/achos.

Asesu cyfraniad y tîm.

Prosiectau wedi’u seilio ar gyfryngau.

Cefnogi amrywiaeth o arddulliau cyfathrebu.

Wicis.

Blogiau.

Adolygu gan gymheiriaid (e.e. trwy fforwm).

Google Docs.

Platfformau dysgu ar-lein/o bell (e.e. Blackboard Collaborate, Adobe Connect).

Trafodaeth wedi’i chymedroli.

Adolygu’n feirniadol.

Meddwl yn feirniadol.

Dysgu’n annibynnol.

Cyd-drafod dealltwriaeth.

Safbwyntiau lluosog.

Adborth.

Ymarfer adolygu’n feirniadol.

Ymarfer meddwl yn feirniadol.

Myfyrio.

Dadlau.

Adolygu.

Cynyddu gwybodaeth gymdeithasol.

Adolygu deunydd ar-lein / gwneud sylwadau arno.

Rhoi a derbyn adborth.

Blogiau.

Fforwm trafod.

Platfformau dysgu ar-lein/o bell (e.e. Blackboard Collaborate, Adobe Connect).

Efelychwyr seminar (e.e. VoiceThread).

Rhannu fideo (e.e. YouTube, Vimeo).

Podledu.

Ffrydiau RSS/cydgasglwyr.

Adolygu gan gymheiriaid (e.e. trwy fforwm).

Cyfosod yr hyn a ddysgwyd.

Cymhwyso’r hyn a ddysgwyd (ar lefel uchel).

Gallu datrys problemau newydd.

Cymhwyso gwybodaeth mewn ffordd integredig.

Profi ymarfer ‘dilys’.

Prosiect integreiddiol (gallai fod yn brosiect grŵp).

Gweithgareddau dysgu wedi’u seilio ar broblem/achos.

Llais dilys trwy fideo/sain.

Platfformau dysgu ar-lein/o bell (e.e. Blackboard Collaborate, Adobe Connect).

Efelychiadau e.e. profion rhithwir.

Animeiddiadau.

Cyfathrebu ysgrifenedig.

Cyd-drafod dealltwriaeth.

Cyfrannu at weithgarwch, sgyrsiau, adnoddau allanol.

Cyfeirnodi’n briodol.

Myfyrio.

Dadlau.

Adolygu.

Cyhoeddi.

Gwirio am lên-ladrad.

Blogiau.

Fforwm trafod.

Atal llên-ladrad (e.e. Turnitin).

Rhannu cyflwyniadau (e.e. SlideShare).

Negeseua (e.e. Twitter, Yammer).

Ffrydiau RSS/cydgasglwyr.

Cyfathrebu llafar.

Sgiliau cyflwyno.

Hyfedredd ieithyddol.

 

Rhannu deunydd sain/fideo.

Cyflwyno.

Adrodd straeon digidol.

Trafod ac adborth sain/fideo.

Efelychwyr seminar (e.e. VoiceThread).

Rhannu fideo (e.e. YouTube, Vimeo).

Podledu.

Rhannu cyflwyniadau (e.e. SlideShare).

Platfformau dysgu ar-lein/o bell (e.e. Blackboard Collaborate, Adobe Connect).

Sgrinledu.

Gadael sylw

Dylai’r gweithgaredd hwn eich helpu i ddatblygu eich ymatebion o’r wythnos ddiwethaf ymhellach – dylech bellach allu cyfateb adnoddau posibl i’r tasgau rydych eisiau i’ch dysgwyr eu cyflawni ar-lein. Byddwch yn ychwanegu at y syniadau hyn yn ystod wythnosau diweddarach.

Gweithgaredd 6 Dewis adnoddau

Meddyliwch yn ôl i’r gweithgareddau a wnaed yn ystod y ddwy wythnos flaenorol, ac adolygwch eich nodiadau ynglŷn â’r hyn rydych eisiau ei ddarparu ar-lein a pha fathau o adnoddau y byddai arnoch eu hangen i gyflawni hyn. Pa adnoddau o’ch rhestrau sydd eisoes yn gysylltiedig â rhai o’ch amcanion a ddymunir wrth addysgu ar-lein? Pa amcanion nad oes adnodd a ddefnyddir eisoes yn gysylltiedig â nhw? A ydych chi wedi darganfod unrhyw beth yn neunyddiau’r wythnos hon a allai eich helpu i gyflawni’r amcanion hyn?

Bydd eich atebion yn cael eu cadw yn y cwrs, ac rydych yn debygol o’u hadolygu’n ddiweddarach.

Gadael sylw

Dylai’r gweithgaredd hwn eich helpu i ddatblygu eich ymatebion o wythnosau blaenorol ymhellach – dylech bellach allu cyfateb adnoddau posibl i’r tasgau rydych eisiau i’ch dysgwyr eu cyflawni ar-lein.