Mynd i'r prif gynnwys

Sesiwn 4: Trin data

Completion requirements
View

Llun o’r siart bar yn Ffigur 4. Mae labeli’n pwyntio at nodweddion y siart. Mae’r testun yn darllen: Allwedd - bydd angen allwedd ar siartiau bar â mwy nag un bar ym mhob adran fel ei bod yn glir at beth mae pob bar yn cyfeirio. Barrau - er bod hyn yn swnio’n gwbl amlwg, rhaid i’r barrau ar eich graff gael eu tynnu’n gywir a phob un yr un lled. Teitl yr echelin lorweddol - mae angen teitl ar hyd yr echelin hon ar bob siart bar i ddisgrifio’r hyn mae’r wybodaeth ar hyd yr echelin yn cyfeirio ato. Graddfa rifol - rhaid labelu’r echelin â graddfa synhwyrol, gallai’r rhifau godi fesul 1, 2, 5, 10 ac ati, gan ddibynnu ar yr hyn sy’n addas i’r data. Teitl yr echelin fertigol – mae angen teitl ar hyd yr echelin hon ar bob siart bar i ddisgrifio’r hyn mae’r wybodaeth ar hyd yr echelin yn cyfeirio ato.

 3.1 Nodweddion siart bar