Mynd i'r prif gynnwys

Adran 1: Dylunio datganoli

Completion requirements
View all sections of the document

Mae hon yn erthygl a ysgrifennwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg, dan y teitl 'Wales deserves a voice / Mae Cymru'n haeddu cael llais'. Mae ffotograff o’r Prif Weinidog Tony Blair yn y canol, gyda llythyr ganddo oddi tano. Pennawd y llythyr yw ‘Wales has the chance to vote for a new future’ mae’n darllen fel a ganlyn: ‘On May 1 Labour gained its best ever result in a general election, including seven Labour gains in Wales. Millions of people were attracted to Labour by our promise to transform Britain. In just a few months we have changed the direction, feel and pace of government – new legislation on schools, hospitals and law and order – showing that Britain can be better. And now we are giving the people of Wales the chance to vote in the referendum for a Welsh Assembly. I want you to vote yes for a strong voice for Wales in a modern constitution. Say 'yes' to a new Wales. Wales deserves it.’ Fe’i llofnodir wedyn gan Tony Blair. Mae’r erthygl wedi ei hysgrifennu gyda’r Saesneg ar y chwith, a’r Gymraeg ar y dde. Mae’r Saesneg yn darllen fel a ganlyn: ‘A Welsh Assembly is part of new Labour's vision for a modern Britain. It will give Wales the recognition it deserves. Labour's new Assembly will give Wales: A better health service – by ensuring that scarce resources are spent on nurses not bureaucrats and red tape. Better schools – by setting tough new standards for literacy, numeracy and overall achievement.. Better job opportunities – by providing a voice in Europe and around the world, to attract investment and back Welsh companies. Better democracy – by ensuring that decisions about local schools and hospitals are made by people elected in Wales not behind closed doors in London. Better value for money – by bringing Welsh quangos to public account and scrutinising spending decisions.’ Mae’r Gymraeg yn darllen fel a ganlyn: ‘Rhan o weledigaeth Llafur newydd i gael Prydain fodern yw Cynulliad Cymreig. Bydd yn rhoi i Gymru y gydnabyddiaeth y mae'n ei haeddu. Bydd Cynulliad newydd Llafur yn rhoi'r rhain i Gymru: Gwell gwasanaeth iechyd – drwy sicrhau y caiff adnoddau prin eu gwario ar nyrsys ac nid ar fiwrocratiaid a biwrocratiaeth. Gwell ysgolion – drwy bennu safonau newydd a llym ar gyfer llythrennedd, rhifedd a chyrhaeddiad yn gyffredinol. Gwell cyfle i gael gwaith – drwy ddarparu llais yn Ewrop ac o amgylch y byd, i ddenu buddsoddiadau a chefnogi cwmnïau Cymreig. Gwell democratiaeth – drwy sicrhau mai pobl a etholwyd yng Nghymru, ac nid pobl y tu ôl i ddrysau caeëdig yn Llundain, sy'n gwneud y penderfyniadau ynghylch ysgolion ac ysbytai lleol. Gwell gwerth am yr arian – drwy sicrhau bod cwangos Cymru'n atebol i'r cyhoedd, ac archwilio'r penderfyniadau ar wario.’

 2.3 Refferendwm 1997