Mae hwn yn sgrinlun o wybodaeth gyllidol gan Lywodraeth Cymru. Mae’n dangos rhannau ar y wefan lle gellir datgelu blychau Gwybodaeth am amrywiol ddatblygiadau treth o’r blynyddoedd diweddar. Dengys diagram ar waelod y sgrinlun nifer o ffynonellau incwm – Grant Bloc Cymru, Ardrethi annomestig, Cyfraddau Treth Incwm Cymru, Treth Trafodiadau Tir, Treth Gwarediadau Tirlenwi, Benthyca – y cyfan yn arwain i floc wedi ei labelu â 'Cyllideb Cymru’. O fewn y diagram hwn mae, Cyfraddau Treth Incwm Cymru, Treth Trafodiadau Tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi wedi eu labelu’n benodol fel ‘Trethi Datganoledig’.