Mynd i'r prif gynnwys

Wythnos 2: Datblygu gyda’r sawl yr ydych yn ei fentora – mentora fel proses ddi-dor

Completion requirements
View all sections of the document

Dengys y ddelwedd berthynas gymhleth rhwng agweddau sy’n galluogi perthynas fentora o ansawdd. Ar yr ochr dde, ceir priodweddau sy’n galluogi dysg broffesiynol ac ar yr ochr chwith, gweler yr ymddygiadau dysgu a’r diwylliannau a geir o ganlyniad. Ar bob ochr y diagram, mae’r dyluniad wedi’i rannu’n dair rhan sydd wedi’u rhannu ymhellach i adran allanol ac adran fewnol. Mae’r adran allanol wedi’i labelu’n ‘gwerthoedd cyd-destunol a rhyngbersonol’ ac mae’r adran fewnol wedi’i labelu’n ‘perthnasoedd unigol a phersonol’. Yn yr adran briodweddau, ceir tair adran. Mae’r adran uchaf wedi’i labelu’n ‘creadigrwydd’ ac mae’n cynnwys datrys problemau ac arloesedd a chael mynediad at bersbectifau eraill, a bod yn agored iddynt, yn ogystal â thynnu ar syniadau gwreiddiol. Mae’r adran ganol wedi’i labelu’n ‘undod’ ac mae’n cynnwys gwerthoedd a geir wrth gydweithio, deialog broffesiynol, deall eraill, ac ymgysylltu â nhw, a bod yn atebol. Mae’r adran isaf wedi’i labelu’n ‘dilysrwydd’ ac mae’n cynnwys cydnabod nodweddion a blaenoriaethau’r ysgol, yn ogystal â chael eich cymell i ddysgu a rhoi moesau a gwerthoedd ar waith. Ar ochr chwith y diagram, ceir tair adran. Mae’r adran uchaf wedi’i labelu’n ‘mynegi’ ac mae’n cynnwys cyfrannu at wybodaeth broffesiynol a datblygu iaith gyffredin, yn ogystal ag egluro’ch ymarfer a’ch syniadau i eraill. Mae’r adran ganol wedi’i labelu’n ‘beirniadaeth’ ac mae’n cynnwys beirniadu tystiolaeth, mireinio ymarfer a datblygu cyfeillion beirniadol a myfyrio’n feirniadol ar dystiolaeth, ymchwil a damcaniaeth a bod yn agored i ddamcaniaeth. Mae’r adran isaf wedi’i labelu’n ‘ehangu’ ac mae’n cynnwys defnyddio’r adnoddau priodol er dysg broffesiynol a thystiolaeth i gynllunio ymlaen llaw, yn ogystal â datblygu syniadau a hunan-rheoli ar ffurf deialog. Ceir cylch yn y canol sy’n cynnwys y geiriau, mentora i ddatblygu ymarfer, defnyddio adnoddau: darparu fframwaith; casglu tystiolaeth; cydweithio; ail-fframio a chylchoedd cynllunio, gwneud, ymholi ac adolygu.