Mynd i'r prif gynnwys

Wythnos 1: Beth mae bod yn fentor i athro ar ddechrau ei yrfa yn ei olygu?

Completion requirements
View all sections of the document

Yn y diagram, gweler olwyn gyda ‘Dylai mentor’ yn y cylch canol a 13 saeth yn arwain ohono at gylchoedd yn cynnwys rolau gwahanol mae mentor yn eu chwarae. Uwchben yr olwyn mae tair saeth sy’n dangos y tair rôl hollbwysig mae mentor yn eu chwarae. Wrth y saeth gyntaf, nodir cydweithiwr, beirniad, model, ceir cefnogaeth seicolegol uwchben y saeth ganol ac addaswr, addysgwr a nawdd wrth y drydedd saeth. Gan ddarllen gyda’r cloc o’r brig, maent fel a ganlyn: Bod yn esiampl dda; Trochi’r athro ar ddechrau ei yrfa gyda gwybodaeth ynghylch ei bwnc; Cynorthwyo’r athro ar ddechrau ei yrfa i ddeall rhywbeth am gyd-destun yr ysgol a sut mae hyn yn effeithio ar ymarfer; Gallu cydnabod pa bryd y gallai cydweithiwr proffesiynol arall hwyluso a rhoi cefnogaeth; Bod yn agored i gyfleoedd datblygiad proffesiynol a dysgu eraill, gan gynnwys manteisio ar gyfleoedd ymchwil; Defnyddio a hwyluso dull myfyriol drwy gydol y broses fentora; Gosod targedau SMART i’r athro er mwyn ei ganiatáu i ddatblygu i fodloni disgrifyddion Statws Athro Cymwys ar gyfer y Safonau Proffesiynol; Deall sut mae asesu cynnydd yr athro ar ddechrau ei yrfa a gallu gwneud hyn yn fanwl gywir; Arsylwi’r athro ar ddechrau ei yrfa a rhoi adborth anffurfiol a ffurfiol i wella ymarfer addysgegol; Cefnogi’r athro ar ddechrau ei yrfa i gwblhau gweithgareddau dysgu a bod yn rhan o astudiaeth gwers/astudiaeth fechan; Bod yn gyfarwydd â nodau a disgwyliadau dyluniad y cwrs, deunyddiau’r cwrs, meini prawf asesu a gweithgareddau dysgu; Cynorthwyo i ddatblygu’r athro ar ddechrau ei yrfa mewn modd cynlluniedig gan ddefnyddio cydbwysedd priodol o gefnogaeth a heriau; Hwyluso cysylltiadau’r athro ar ddechrau ei yrfa gyda chydweithwyr a chyfleoedd datblygiad proffesiynol.