Mynd i'r prif gynnwys

Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol

Completion requirements
View all sections of the document

Delwedd o siart (Saesneg a Chymraeg) sy’n cymharu’r gweithlu yng Nghymru oedd yn gweithio o gartref gyda gweddill y Deyrnas Unedig rhwng Ionawr a Thachwedd 2020 yn ystod y pandemig COVID-19. Yn ystod Ionawr/Chwefror 2020, dim ond 4 y cant o’r gweithlu yng Nghymru oedd yn gweithio o gartref yn unig. Cododd hyn i 37 y cant yn Ebrill 2020, gan fynd dan 20 y cant ym Medi 2020 ond cynyddu’n ôl i 25 y cant ym mis Tachwedd 2020. Gwelwyd patrwm tebyg ar gyfer gweddill y Deyrnas Unedig, ond roedd eu lefelau wastad 3 i 6 y cant yn uwch nag ar gyfer Cymru.