Delwedd yn dangos cyfartaledd y defnydd mwyaf o adeiladau swyddfa ar ddyddiau’r wythnos yn y Deyrnas Unedig rhwng Mehefin 2021 a Mawrth 2022 Ar wahân i’r cyfnod clo gweithio o gartref ‘Cynllun B’ yn dechrau yn Rhagfyr 2021, dyddiau Mawrth, Mercher ac Iau oedd y dyddiau mwyaf poblogaidd yn y swyddfa yn gyson. Mae’r defnydd yn dechrau ar tua 10 y cant ar y dyddiau hyn ym Mehefin 2021, gyda dydd Llun a dydd Gwener tua 3 y cant yn is. O fis Medi i fis Rhagfyr, cynyddodd y defnydd i ychydig dros 25 y cant ar gyfer dyddiau canol yr wythnos, ond ar ddyddiau Llun a Gwener, roedd y gwerthoedd 7 i 12 y cant yn is. Mae’r patrwm hwn yn parhau ar ôl i’r cyfyngiadau gael eu codi, gyda dydd Gwener y diwrnod gyda’r defnydd lleiaf.