Delwedd yn dangos trosolwg o gwmpasau ac allyriadau’r Protocol Nwyon Tŷ Gwydr ar draws y gadwyn werth. Ar frig y ddelwedd mae cymylau, gyda chwe chylch ar eu traws, pob un yn cynnwys un o’r termau canlynol: CO2; CH4; N2O; HFCs; PFCs; SF6. Ar waelod y ddelwedd mae saeth yn rhedeg o’r chwith i’r dde, wedi ei rannu’n dair adran, dan y teitl ‘Upstream activities’, ‘Reporting company’ a ‘Downstream activities’. O’r cwmwl ar yr ochr chwith, mae saeth lydan sy’n crymanu i lawr ac yn ôl i fyny at y cymylau. Rhoddir y teitl ‘Scope 2: Indirect’ i hwn uwch ben blaen y saeth. Ychydig nes i’r dde ac yn is, mae saeth debyg, dan y teitl ‘Scope 3: Indirect’. Ar yr ochr dde mae saeth arall yn crymanu, fel y lleill, gyda’r teitl ‘Scope 3: Indirect’. Rhwng y saethau yma, yn y canol, mae saeth yn pwyntio i fyny at y cymylau, gyda’r teitl ‘Scope 1: Direct’. Ar hyd y saeth Cwmpas 2 mae’r testun ‘purchased electricity, steam, heating and cooling for own use’ gydag eicon plwg. Ar hyd y saeth Cwmpas 3 mae nifer o eiconau a’r testun cysylltiedig: ‘purchased goods and services’ gydag eicon ffatri; ‘capital goods’ gydag eicon lori; ‘fuel and energy related activities’ gydag eicon pyllau glo; ‘transportation and distribution’ gydag eicon llong; ‘waste generated in operations’ gydag eicon bin ar olwynion; ‘business travel’ gydag eicon awyren; ‘employee commuting’ gydag eicon trên; ‘leased assets’ gydag eicon swyddfa. Yn y saeth ganol, ar y gwaelod mae’r testun ‘company vehicles’ gydag eicon lori ac yn uwch i fyny mae’r testun ‘company facilities’ gydag eicon swyddfa. Ar hyd y saeth Cwmpas 3 mae rhagor o eiconau a’u testun cysylltiedig: ‘transportation and distribution’ gydag eicon llong; ‘processing of sold products’ gydag eicon ffatri; ‘use of sold products’ gydag eicon bwlb golau; ‘end of life treatment of sold products’ gydag eicon bin sbwriel; ‘leased assets’ gydag eicon swyddfa; ‘franchises’ gydag eicon busnes bach; ‘investments’ gydag eicon arian.