Mynd i'r prif gynnwys

Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer trawsnewid digidol

Completion requirements
View all sections of the document

Mae’r ddelwedd yn dangos y broses ar gyfer cyflawni a’r gwahaniaethau rhwng digideiddio, digidaleiddio, a thrawsnewid digidol. Mae saeth sydd â phum cam arno yn mynd o’r chwith ar y gwaelod i’r brig ar y dde. Mae Camau 1 (Digideiddio gwybodaeth) a 2 (Trefnu gwybodaeth) yn gorwedd dan Digideiddio (newid o ffurf analog neu ffisegol i ffurf ddigidol). Mae Camau 3 (Awtomeiddio proses) a 4 (symleiddio proses) yn gorwedd dan Digidaleiddio (defnyddio technolegau digidol a gwybodaeth i drawsnewid gweithrediadau sefydliadol unigol). Mae Cam 5 (Trawsnewid y sefydliad) yn gorwedd dan Trawsnewid digidol (Cyfres o newidiadau dwfn a chydlynus mewn diwylliant, gweithlu a thechnoleg sy’n galluogi modiwlau addysgol a gweithrediadol newydd ac sy’n trawsnewid gweithrediadau, cyfeiriadau strategol a datganiad gwerth sefydliad)