Llun o luniad wrth raddfa o gyrchfan gwyliau El Sunno. Mae’r llun wedi’i luniadu ar bapur sgwariau (10×10) a'r raddfa yw 1:1 000. Mae nifer o atyniadau ar y map (y traeth, Gwesty Parti, Clwb Nos Grwfi, Bistro’r Traeth, tafarn, Siop Pob Peth a Gwesty’r Haul). Mae hefyd croesau i farcio mynedfeydd i’r adeiladau. Mae cyfesurynnau x,y y mynedfeydd fel a ganlyn: y traeth (2,8), Clwb Nos Grwfi (8,8), Bistro’r Traeth (5,5), tafarn (6,6), Siop Pob Peth (5,3) a Gwesty’r Haul (6,2).