Mynd i'r prif gynnwys

Datblygu a rheoli cydberthnasau

Completion requirements
View all sections of the document

Dyma ran o stori a ysgrifennwyd gan Lowri. Mae'n darllen fel a ganlyn:

Lowri Williams Fy niwrnod cyntaf yn yr ysgol

Roeddwn yn 4 oed pan aeth fy mam â fi i’r ysgol, ac roeddwn i’n teimlo’n nerfus iawn ac eisiau mynd adref. Enw fy athrawes oedd Mrs Littlewood. Roedd ganddi wallt byr brown ac roedd yn edrych yn gyfeillgar. Dywedodd “Lowri, eistedd yma gyda Cara”. Eisteddais gyda fy ffrind, Cara, ac rwy’n dal i fod yn ffrindiau gyda hi.

Rwy’n dal i gofio’r wers gyntaf, sef celf, ac roedd yn rhaid i ni dynnu llun o’n hunain. Yn fy llun i, rwy’n gwisgo fy ngwisg ysgol am y tro cyntaf. Yn sydyn, roedd yn amser cinio a gwnes i fwyta fy mhecyn bwyd yn yr ystafell ddosbarth. Pan ddechreuais i yn yr ysgol, doedd dim cinio ysgol, ond o flwyddyn 1 ymlaen, roedd cinio ysgol ar gael.

 3.1 O'r cartref i'r ysgol