Mynd i'r prif gynnwys

Rheoli ymddygiad

Completion requirements
View all sections of the document

Dyma lun o siart wal 'system pwyntiau balchder' ar wal frics o dan do. Ar ochr dde'r siart wal mae dwy golofn o betryalau gwyn, gyda 'Pwyntiau Balchder' wedi'i ysgrifennu uwch law iddynt. Mae'r golofn gyntaf yn cynnwys pum petryal o feintiau tebyg gyda dwy lythyren ym mhob un: RG, RF, 1P, 1W a 2B. Mae'r ail golofn yn cynnwys chwe phetryal o feintiau tebyg gyda dwy lythyren ym mhob un: 3T, 3CT, 4L, 4P, 5E a 6B.

I'r chwith o'r petryalau, yng nghanol y bwrdd, mae label gyda'r geiriau 'cyfanswm cyfredol' wedi'u hysgrifennu arno. O dan y label mae dalen wen o bapur gyda phedwar sgwâr lliw wedi'u trefnu i wneud un sgwâr mwy. Mae pob sgwâr yn cynnwys rhif sy'n rhoi'r cyfanswm cyfredol ar gyfer pob 'tŷ'.

Ar ochr chwith y bwrdd mae pedwar siâp tŷ lliw. Mae'r rhain wedi'u trefnu mewn sgwâr gyda thŷ gwyrdd a choch ar y rhes uchaf, a thŷ melyn a glas ar y gwaelod. Mae dalen o bapur ar ochr dde pob tŷ gyda rhestr o enwau a rhifau wrth ymyl yr enwau. Uwchlaw'r pedwar tŷ mae label sy'n darllen 'pwyntiau'r tîm'.

Yng nghanol y siart wal ar y brig mae'r gair 'balchder' wedi'i ysgrifennu mewn geiriau coch a gwyn.

 2.2 Rheoli ymddygiad drwy siartiau gwobrwyo