3.4.1 Cynnyrch (neu wasanaeth)

Mae'r cynnyrch neu'r gwasanaeth yn cyfeirio at yr hyn sy'n cael ei farchnata, gan gynnwys amrywiaeth, meintiau, lliwiau a swyddogaethau. Ystyrir ei fod yn cynnwys gwasanaethau erbyn hyn hefyd a chyfeirir ato fel y pecyn cynnyrch neu wasanaeth.

Er mwyn denu cwsmeriaid oddi wrth gynhyrchion sydd eisoes ar gael, a datblygu defnyddwyr a chwsmeriaid hollol newydd, dylai'r cynnyrch neu'r gwasanaeth fod yn arloesol mewn rhyw ffordd. Dylai fod yn wahanol a dylai fod ganddo ei gynnig gwerthu unigryw ei hun. Hefyd, er mwyn gwerthu symiau rhesymol o'r cynnyrch neu'r gwasanaeth yn llwyddiannus, rhaid iddo hefyd ddarparu manteision diriaethol ac anniriaethol i gwsmeriaid. Yn draddodiadol, mae marchnatwyr bob amser wedi diffinio cynnyrch fel bwndel o fanteision. Yn ôl Dibb et al. (1998), mae'r cwsmer yn cael tair lefel o fantais o'r cynnyrch:

  • manteision craidd y cynnyrch
  • manteision gwirioneddol y cynnyrch
  • manteision estynedig y cynnyrch.
Ffigur 16 Tair lefel o fanteision cynnyrch, Dibb et al. (1998)

Yr un manteision craidd sydd i gynnyrch pob cystadleuydd. Mae'r manteision gwirioneddol ac estynedig yn cynnwys y manteision ychwanegol hynny sy'n gysylltiedig â'r cynnyrch neu'r gwasanaeth arloesol rydych yn ei gyflwyno i'r farchnad. Gallant gynnwys gwasanaeth cwsmeriaid, cynllun y cynnyrch ac ati.

Mae'n bwysig cydnabod y gwahaniaeth rhwng cynnyrch, y gellir ei ddychwelyd os yw'n ddiffygiol, a gwasanaeth, a gaiff ei ddefnyddio fel arfer wrth iddo gael ei gynhyrchu ac na ellir ei storio.

Astudiaeth achos: Dafydd a Ffion

Ystyriodd Dafydd a Ffion y cysyniad hwn mewn perthynas â'u busnes newydd. Gwnaethant edrych ar fanteision craidd, gwirioneddol ac estynedig eu busnes gosod gwyliau ecogyfeillgar a chynnig y canlynol:

  • Craidd: y cyfle i fynd ar wyliau i leoliad gwledig hyfryd sydd heb ei ddifetha ac sy'n agos i fyd natur
  • Gwirioneddol: darparu llety gwyliau hunanarlwyo cynaliadwy o ansawdd uchel a gynlluniwyd yn benodol i ddiwallu anghenion pobl sy'n ymwybodol o'r amgylchedd ac sy'n poeni am eu hôl troed carbon
  • Estynedig: ôl troed carbon ac amgylcheddol llai.

Tasg 18: Sefydlu lefelau manteision y cynnyrch

Ystyriwch beth yw eich cynnyrch neu'ch gwasanaeth craidd, gwirioneddol ac estynedig..

A yw eich lleoliad gwledig yn bwysig?

A allwch ddefnyddio lleoliad i wella eich arlwy mewn rhyw ffordd?

Rhannwch eich syniadau ag entrepreneuriaid eraill yn eich rhwydweithiau lleol .