3.2.1 Camau'r broses mabwysiadu arloesedd

Bydd rhai darpar gwsmeriaid yn betrus ac yn aros gyda'u cyflenwr presennol am gyhyd â phosibl. Caiff eraill eu cyffroi gan y siawns o roi cynnig ar rywbeth newydd. Dangosodd Everett Rogers (1962) fod pum cam i'r broses o fabwysiadu arloesedd.

  • Ymwybyddiaeth: daw'r cwsmer (naill ai defnyddiwr neu sefydliad arall) yn ymwybodol o fodolaeth yr arloesedd ac mae ganddo syniad cyffredinol o beth ydyw
  • Perswadio: bydd y perchennog yn magu mwy a mwy o ddiddordeb yn yr arloesedd (fel arfer drwy gymheiriaid neu rwydweithiau cymdeithasol ond hefyd drwy hysbysebion a hyrwyddiadau)
  • Treialu: mae'r cwmni, cymdeithasau defnyddwyr neu fasnach, neu rwydweithiau lleol yn profi'r arloesed ar raddfa fach
  • Mabwysiadu: penderfynu'n iawn i fabwysiadu'r arloesed - dengys ymchwil gan Ysgol Fusnes y Brifysgol Agored fod y penderfyniad i fabwysiadu'n gysylltiedig â defnydd busnes neu bersonol clir i'r cymhwysiad (Zappala a Gray, 2006)
  • Atgyfnerthu: mae'r asiant yn ceisio cadarnhad ynghylch y penderfyniad neu'n ei wrthod (gan amlaf, bydd hyn yn dibynnu ar adborth o'r farchnad ar ffurf cynnydd mewn gwerthiannau).

Astudiaeth achos: Gwyneth

Sut byddai hyn yn gweithio i Gwyneth?

  • Ymwybyddiaeth: Gallai Gwyneth osod posteri a dosbarthu taflenni er mwyn rhoi gwybod i bobl y bydd hi'n dod â'i chynhyrchion i leoliad ar amseroedd penodol
  • Perswadio: Gallai taflenni marchnata wahodd darpar gwsmeriaid i brynu am ddisgownt ar amser penodol
  • Treialu: Gallai Gwyneth ddewis detholiad o'i chynhyrchion a rhoi samplau ohonynt fel y gall darpar gwsmeriaid roi cynnig ar ei jamiau, ei chyffeithiau a'i siytnis
  • Mabwysiadu: Y tro nesaf y bydd yn mynd i farchnad neu ffair, os bydd y cam treialu wedi llwyddo, bydd ciw o gwsmeriaid yn aros amdani
  • Atgyfnerthu: Os bydd prynwyr yn mwynhau'r cynhyrchion, byddant yn dod yn gwsmeriaid rheolaidd ac yn dweud wrth eu ffrindiau am 'Blas y Bwthyn'.

Tasg 16: Mabwysiadu arloesedd

Ystyriwch sut y gallech dywys eich darpar gwsmeriaid drwy bob un o'r pum cam hyn.