1.1 Beth mae gwledig yn ei olygu?
Sut mae diffinio beth yw gwledig? Cyn edrych ar unrhyw ddiffiniadau neu ystadegau swyddogol, efallai y byddai'n werth edrych ar beth yw ystyr y term 'gwledig' yn ein barn ni. Yn aml pan fyddwn yn meddwl am y gair 'gwledig', rydym yn tueddu i'w gysylltu efallai â 'chefn gwlad' neu 'dirwedd', neu 'fyd natur' neu dermau cyffredinol eraill tebyg. Efallai y byddwn yn meddwl am 'ansawdd bywyd', llai o brysurdeb, cymunedau cryfach. Mae'n bosibl y byddwn yn meddwl am bethau sy'n ymwneud â disgrifiadau o'r byd ffisegol o'n cwmpas a rhai sy'n ymwneud ag agweddau cymdeithasol neu ddiwylliannol. Weithiau gallant fod yn gadarnhaol (fel uchod), ond efallai y bydd eraill yn negyddol: pawb yn gwybod eich busnes; anodd cael gafael ar wasanaethau fel addysg neu ofal iechyd; ffyrdd a chysylltiadau trafnidiaeth gwael, a diffyg cyfleoedd o ran swyddi. Nid yw diffinio 'gwledig' yn dasg syml o gwbl, ond mae'n bwysig inni ddeall a chydnabod y manteision a'r anfanteision o fyw mewn ardal wledig.
Mae'n werth cydnabod nad yw pob ardal wledig yr un fath, ac y bydd y cyd-destun gwledig a'r heriau gwledig ym mhob un o bedair gwlad yn y Deyrnas Unedig (Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr), ac yn rhanbarthol yn y gwledydd hyn, yn wahanol iawn. Yng Nghymru, bydd heriau gwledig Sir Benfro, er enghraifft, yn wahanol iawn i'r heriau a wynebir yng Nghonwy, a byddant hyd yn oed o fewn Sir Benfro - rhwng Arberth a Llandudoch.
Dengys canfyddiadau newydd, a gyhoeddwyd gan y SYG, bod Cymru yn parhau i fod â'r rhan fwyaf o ardaloedd mwyaf gwag y Deyrnas Unedig. Powys, gyda dim ond 26 person fesul km sgwâr, yw'r ail ran fwyaf gwag o'r DU. Er mwyn cymharu mae gan Gaerdydd 2,482 o bobl fesul km sgwâr. Mae enillion wythnosol cyfartalog y rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig fel Powys yn is na chyfartaledd cenedlaethol Cymru. Ynys Môn a Chonwy sydd â'r nifer uchaf o drigolion sydd wedi ymddeol, sy'n economaidd anweithgar yng Nghymru.
Mae Cynllun Datblygu Gwledig (CDG) Cymru ar gyfer 2009-2013 yn amlinellu pedair echel sy'n rhoi cyfeiriad strategol i fentrau datblygu rhanbarthol a gwledig lleol:
- Echel 1: Gwneud Cymru wledig yn fwy cystadleuol
- Echel 2: Amddiffyn ein cefn gwlad
- Echel 3: Gwella bywydau pobl ac annog arallgyfeirio
- Echel 4: Cefnogi prosiectau a mentrau lleol
Mae gan bob rhanbarth yng Nghymru, fel rhan o Rhwydwaith Gwledig Cymru [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , ei Grŵp Gweithredu Lleol ei hun sy'n gweithredu strategaeth CDG yn ôl ei anghenion a'i sefyllfa ei hun.
Mae'r math hwn o wybodaeth yn ddefnyddiol fel cefndir pan fyddwch yn meddwl am eich busnes a'ch cymuned.
Noder: Bydd linc i fersiwn 2014–2020 y CDG ar gyfer Cymru ar gael drwy'r hashtag Twitter #RDPWalesRuralEnt .
Mae tai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig wedi bod yn broblem ers tro ledled y DU, ac yn arbennig mewn cymunedau Cymreig, lle mae pris tai lleol yn anghyson â lefelau incwm lleol. Caiff y sefyllfa hon ei gwaethygu gan nifer y cartrefi gwyliau mewn llawer o ardaloedd gwledig, yn ogystal â'r mewnlifiad o bobl o'r dinasoedd sy'n chwilio am 'gymysgedd o awyr iach, pobl gyfeillgar ac ysbryd cymunedol', yn ôl astudiaeth a luniwyd yn 2010 gan NFU Mutual). Mae'r astudiaeth yn honni bod bron saith o bob deg o drigolion gwledig wedi symud o'r trefi a'r dinasoedd i gefn gwlad Cymru, a bod tua 45y cant ohonynt wedi symud o ardaloedd trefol yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Er bod hyn wedi helpu gwasanaethau lleol i oroesi, mae hefyd wedi gwthio prisiau tai i fyny yn ôl Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig (YDCW).
Canfu ymchwil gan Arsyllfa Wledig Cymru (2009) i glymblaid 'Cymru'n Un' yn 2010, fod yr heriau eraill sy'n wynebu trigolion ardaloedd gwledig yn cynnwys cost gymharol uchel nwyddau (gan gynnwys tanwydd), anawsterau trafnidiaeth a gwasanaeth band eang gwael. Serch hynny, dywedodd mwy na 90 y cant o'r rhai a gymerodd ran yn yr arolwg eu bod yn fodlon ar eu hardal leol fel lle i fyw, a dywedodd 94 y cant fod eu hansawdd bywyd yn "dda iawn" neu'n "eithaf tawel’.
Mae'r sector cyhoeddus yn gyflogwr mawr yng Nghymru, ac mae'r Gymru wledig yn cyfrif am 28 y cant y gweithlu. Fodd bynnag, mae cryn amrywiaeth rhanbarthol i'w weld. Felly, mae bron traean o weithlu Gwynedd a Sir Gaerfyrddin yn gweithio yn y sector cyhoeddus o gymharu â llai na chwarter y boblogaeth sy'n gweithio yn Sir Benfro, Powys, Conwy a Sir Fynwy. Wrth i'r sector cyhoeddus grebachu, bydd effaith hynny i'w theimlo'n gryf yng Nghymru wledig.
Yn 2006, roedd busnesau bach a chanolig eu maint yn cyfrif am 99 y cant o'r 190,000 o fusnesau yng Nghymru ond yn cyfrif am laif na 60y cant o gyflogaeth (Stats Cymru, 2009).
Ardaloedd gwledig sydd â'r dwysedd uchaf (fesul pen o'r boblogaeth) o gyflogwyr bach sy'n fusnesau preifat (Powys, Ceredigion a Sir Benfro sydd yn y tri safle cyntaf, Cymru.gov, 2011), ac mae 17 y cant o'u gweithwyr o dan 25 oed. At hynny, mae llai na 40 y cant o'r rhai sy'n gweithio yn y sector preifat yn siarad Cymraeg gyda llai na hanner yn defnyddio'r iaith 'gan amlaf' neu 'weithiau' yn y gwaith (Arsyllfa Wledig Cymru, 2006).
Mae allyriadau CO2 yn uwch mewn ardaloedd gwledig, mae'r defnydd o drafnidiaeth yn dueddol o fod yn uwch ac mae tai gwledig yn dueddol o fod wedi'u hinswleiddio'n llai effeithiol. Fodd bynnag, cymunedau gwledig sydd â'r potensial gorau i gael budd o ynni adnewyddadwy.
Mae'r mathau hyn o 'ffeithiau' yn dweud wrthym fod ardaloedd gwledig yn wynebu mathau gwahanol o broblemau. Bydd gwybod am y problemau hynny, a meddwl am sut y gallent effeithio ar eich busnes a'ch dewisiadau a deall sut y gallent wneud hynny, yn eich helpu i ddatblygu eich busnes, a bydd yn rhoi hyder i ddarpar arianwyr eich bod wedi gwneud eich gwaith ymchwil. I gael y wybodaeth ddiweddaraf edrychwch am #RDPWalesRuralEnt ar Twitter.
Mae Awdurdodau Lleol (ALl) hefyd yn casglu data am eich ardal; mae'n werth archwilio'r data hyn drwy fynd yn uniongyrchol i wefan eich Awdurdod Lleol neu drwy fynd i wefan Busnes Cymru lle gwelwch ddolenni i bob un o'r 22 ALl yn ogystal â gwybodaeth a chymorth ychwanegol.
Ar ddiwedd yr adran hon, rydym yn awgrymu rhai ffynonellau posibl o wybodaeth a chymorth.
Tasg 1: Amcanion personol
Ysgrifennwch eich amcanion personol dros astudio'r uned hon. (Gallwch eu haddasu wrth i chi fynd yn eich blaen.)
- Beth rydych yn ei fwynhau am fyw mewn lleoliad gwledig? Beth nad ydych yn ei fwynhau?
- Ysgrifennwch beth mae 'gwledig' yn ei olygu i chi h.y. beth yw ei nodweddion (gallai hyn eich helpu i feddwl am beth mae byw mewn ardal wledig yn ei ychwanegu at eich busnes).
Rhannwch eich syniadau ag entrepreneuriaid eraill yn eich rhwydweithiau lleol.
Ar ddiwedd pob adran, bydd gofyn i chi adolygu'r gweithgareddau rydych wedi'u cwblhau a chrynhoi eich gwaith yn yr Adolygiad o Gynnydd y Cynllun Busnes (AGCB).
Cymerwch olwg ar y templed nawr fel eich bod yn gwybod yn glir beth y bydd angen i chi ei wneud ym mhob adran.