Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.2 Pam dechrau busnes?

I rai, mae manteision arbennig yn gysylltiedig â byw mewn ardal wledig, ac i eraill mater o wneud bywyd anodd yn fwy hwylus ydyw.

Cyn i chi ystyried pa mor ymarferol yw eich syniad busnes, cymerwch amser i feddwl pwy yw eich rhanddeiliaid a beth fydd eich strategaethau ar gyfer datblygu'r busnes. Mae hyn yn ddefnyddiol er mwyn deall sylfaen y busnes. Rhaid i chi feddwl amdanoch chi eich hun, beth sy'n bwysig i chi a sut y caiff hyn ei adlewyrchu yn eich busnes.

Tasg 2: Gweledigaeth - bywyd a busnes

Ysgrifennwch y nodau personol yr hoffech eu cyflawni ymhen 12 mis ac ymhen pum mlynedd. Beth hoffech ei gyflawni erbyn hynny? Cofiwch gynnwys amcanion personol a busnes. Defnyddiwch y tabl enghreifftiol [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]   fel isod neu, os yw'n well gennych, lluniwch eich map syniadau (Buzan 2002) neu restr eich hun.

Tabl 1
Agwedd ar fy mywyd12 misPum mlyneddSylwadau a chysylltiadau
Cartref - byw mewn ardal wledig

a.

b.

c.

a.

b.

c.

Teulu

a.

b.

c.

a.

b.

c.

Gwaith

a.

b.

c.

a.

b.

c.

Gwerthoedd

a.

b.

c.

a.

b.

c.

Edrychwch ar eich tabl, map syniadau neu restr. A oes unrhyw beth yn eich taro? A yw eich nodau'n gyson?

Mae'n bwysig deall pa rannau o'r man lle rydych yn byw, sut rydych yn byw, eich dyheadau a'ch gwerthoedd sylfaenol y byddwch yn eu cynnwys yn y fenter newydd.

Mae gan bob sefydliad, bach neu fawr, 'byramid diben'.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 2 Pyramid diben

Wrth i ni fynd drwy'r uned, bydd eich nodau, amcanion ac ati yn dod yn fwy clir. Mae'r diagram hwn yn dangos sut y maent yn alinio, er mwyn adeiladu ar ei gilydd a chynorthwyo ei gilydd.

Tasg 3: Datganiad cenhadaeth

Un o'r pethau a all ein helpu i ddeall ein syniad busnes ein hun yw meddwl am ein profiadau gwaith blaenorol. Meddyliwch am sefydliad rydych wedi gweithio ynddo.

  1. A allwch nodi ei genhadaeth a'i werthoedd cyffredinol?
  2. Ydych chi'n ymwybodol o'i nodau a'i golau?
  3. A oedd ei amcanion (neu amcanion eich adran) yn glir?
  4. A oedd gennych dargedau ffurfiol (neu anffurfiol)?

Gadael sylw

Os ydych wedi gweithio mewn sefydliad mawr, efallai i chi weld 'cenhadaeth', gweledigaeth a gwerthoedd y cwmni ar bosteri ac ati. Credir bod y pethau hyn yn bwysig er mwyn creu diwylliant neu 'ffordd o wneud pethau' o fewn y cwmni.

Fel arfer, nid yw cwmnïau llai o faint yn treulio cymaint o amser yn cyfleu'r pethau hyn mewn ffordd mor ffurfiol. Serch hynny, pan fyddwch yn mynd i mewn i siop neu gwmni bach, byddwch yn cael syniad o beth sy'n bwysig iddo o'r ffordd y bydd yn gwneud busnes (sut mae'r staff yn ymddwyn tuag at gwsmeriaid, y ffordd y mae'r safle wedi'i oleuo a'i gynllunio a sut mae hyn yn gwneud i chi deimlo, ac ati).

Bydd yr un peth yn wir am eich busnes chi: byddwch yn gweithio yn unol â'ch gwerthoedd eich hun. Sut mae eu trosi i fyd busnes o gofio bod angen i chi wneud elw mewn rhyw ffordd, hyd yn oed os byddwch yn ei ailfuddsoddi yn y busnes?

Mae'n gyffredin i gwmnïau mawr lunio polisi ar 'gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol', ac i rai sefydliadau llai o faint mae'n rhan greiddiol o'u hunaniaeth (e.e. siopau cymunedol a chaffis). Ble bynnag y byddwch yn gweithredu polisi o'r fath yn eich busnes, gall fod yn ddefnyddiol er mwyn adlewyrchu eich gwerthoedd personol yn ffurfiol o fewn eich busnes.