1.3 Gwerthoedd
Mae gan bob busnes werthoedd a gaiff eu dylanwadu gan y byd o'i gwmpas. Mae'r acronym CUSG (SOGI yn Saesneg) yn ein helpu i feddwl amdanynt.
- Cymdeithas: Mae pob sefydliad yn gweithio o fewn normau cymdeithasol: gallant fod yn gysylltiedig â ffydd, agweddau amgylcheddol, traddodiadau hanesyddol, arferion daearyddol neu ddiwylliannol. Byddant yn amrywio. Yn gynharach, gwnaethom ystyried ein safbwyntiau ein hunain ar wledigrwydd, a gwnaethom ddarganfod bod ardaloedd gwledig yn amrywio a bod ein hamgylchiadau mewn cymdeithas wledig (ifanc/hen/llai galluog/cyflogedig) yn newid ein profiad o fywyd gwledig.
- Sefydliadol: Mae sylfaenydd sefydliad yn trosglwyddo eu credoau a'u gwerthoedd i'r ffordd y caiff y cwmni ei redeg. Bydd rhai o'r rhain yn ymwneud â'r agweddau uchod a chânt eu trosglwyddo'n ddiarwybod, efallai y bydd eraill yn dangos awydd i wrthod neu symud oddi wrth ffyrdd sefydledig o wneud pethau. Bydd y staff wedyn yn mabwysiadu'r rhain a chânt eu hymgorffori yn y ffordd y mae disgwyl i staff ymddwyn. Efallai y byddwn yn gwneud yr un peth ein hunain.
- Grŵp: Mewn sefydliad, gall grŵp ddatblygu ei set ei hun o werthoedd, a ffyrdd o gyfathrebu ac ymddwyn â'i gilydd.
- Unigol: Bydd ein gwerthoedd a'n credoau personol yn 'gyson', neu fel arall, â gwerthoedd a chredoau'r gymdeithas, y sefydliad a'r grwpiau rydym yn rhan ohonynt. Bydd pobl fel arfer yn gwneud eu gorau pan fo 'cysondeb' da.
Tasg 4: Gwerthoedd
Meddyliwch am y gwerthoedd rydych yn eu cyflwyno i'ch menter newydd.
Os ydych yn cynllunio partneriaeth, meddyliwch am werthoedd pob person sy'n rhan ohoni. (Gallech ofyn iddynt gwblhau'r gweithgaredd blaenorol hefyd!)
- A yw eich gwerthoedd chi a gwerthoedd eich partner yn gyson?
- Sut bydd eich gwerthoedd yn cael eu harddangos yn eich sefydliad?
- Os ydych yn ehangu busnes sydd eisoes yn bodoli: beth yw gwerthoedd presennol y busnes?
- A ydych yn hapus i adeiladu arnynt?
Cofnodwch eich syniadau.
Rhannwch eich syniadau ag entrepreneuriaid eraill yn eich rhwydweithiau lleol .