Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.5 Nodweddion ymddygiadol entrepreneuriaid

Caiff llawer o fusnesau gwledig, ond nid pob un ohonynt, eu hysgogi gan yr awydd i ddarparu gwasanaeth lleol, llwyddo ac adeiladu'r gymuned o'u cwmpas. Mae rhai o'r rhain yn fusnesau preifat sy'n anelu at wneud elw ac mae rhai yn perthyn i'r sector 'dielw' - sefydliadau gwirfoddol, cwmnïau buddiannau cymunedol, elusennau neu fentrau cymdeithasol. Wrth gwrs, rhaid i'r sefydliadau 'dielw' wneud arian, ond nid dyna yw eu prif nod a chaiff unrhyw elw dros ben ei fuddsoddi nôl yn y sefydliad fel arfer.

Efallai y bydd un syniad o entrepreneuriaeth yn apelio mwy atoch nag eraill, ac yn wir, efallai na fyddwch byth wedi ystyried eich hun yn entrepreneur (tan nawr). Beth bynnag fo'ch cymhelliad, Jeffrey Timmons o Sefydliad Technoleg Massachusetts wedi nodi rhai nodweddion allweddol sy'n ategu llwyddiant entrepreneuraidd, sy'n cynnwys:

  • cymhelliant ac egni
  • hunanhyder
  • lefel uchel o fentergarwch a chyfrifoldeb personol
  • locws rheoli mewnol
  • y gallu i ymdopi ag amwysedd ac ansicrwydd
  • lefel isel o ofn methiant
  • parodrwydd i gymryd risgiau cymedrol
  • ymglymiad hirdymor
  • arian fel ffon fesur nid dim ond nod
  • defnydd o adborth
  • datrys problemau'n barhaus mewn ffordd ymarferol
  • defnyddio adnoddau
  • safonau gwirfoddol.

Tasg 6: Rhinweddau entrepreneur

Pa rai o'r rhinweddau hyn sydd gennych chi eich hun? 'Does dim rhaid i chi feddu ar bob un ohonynt! I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch Beth sy'n gwneud entrepreneur [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ?.

Rhannwch eich syniadau ag entrepreneuriaid eraill yn eich rhwydweithiau lleol.