1.6 Crynodeb
Yn yr adran hon rydych wedi:
- ystyried beth mae'r term 'gwledig' yn ei olygu
- ysgrifennu eich amcanion personol ar gyfer dechrau busnes
- ystyried y pyramid diben, gan edrych ar y cysondeb rhwng eich gwerthoedd bywyd a'ch gwerthoedd busnes.
Nawr agorwch yr AGCB [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] a meddyliwch am y gweithgareddau rydych wedi'u cwblhau yn yr adran hon. Adolygwch ganlyniad pob gweithgaredd ac atebwch y ddau gwestiwn yn adran ragarweiniol yr AGCB. I wneud hyn, bydd rhaid i chi feddwl am elfennau pwysicaf eich syniadau hyd yma.
Gair i gall...
Cofiwch, wrth i chi ddatblygu eich menter, nad ydych ar eich pen eich hun. Mae teulu, ffrindiau a rhwydweithiau sydd eisoes yn bodoli yn darparu cymorth gwerthfawr. Fodd bynnag, mae llawer o ffynonellau cymorth eraill hefyd, er enghraifft, cyrff cyhoeddus. Gall llawer o sefydliadau eich cyfeirio at adnoddau a gwybodaeth, cyngor ac arweiniad hefyd. Bydd y rhain yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych yn byw. Dyma restr gychwynnol o sefydliadau y gallech ystyried cysylltu â hwy neu ymchwilio iddynt (os nad ydych wedi gwneud hynny yn barod):