Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.6 Crynodeb

Yn yr adran hon rydych wedi:

  • ystyried beth mae'r term 'gwledig' yn ei olygu
  • ysgrifennu eich amcanion personol ar gyfer dechrau busnes
  • ystyried y pyramid diben, gan edrych ar y cysondeb rhwng eich gwerthoedd bywyd a'ch gwerthoedd busnes.

Nawr agorwch yr AGCB [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]   a meddyliwch am y gweithgareddau rydych wedi'u cwblhau yn yr adran hon. Adolygwch ganlyniad pob gweithgaredd ac atebwch y ddau gwestiwn yn adran ragarweiniol yr AGCB. I wneud hyn, bydd rhaid i chi feddwl am elfennau pwysicaf eich syniadau hyd yma.

Gair i gall...

Cofiwch, wrth i chi ddatblygu eich menter, nad ydych ar eich pen eich hun. Mae teulu, ffrindiau a rhwydweithiau sydd eisoes yn bodoli yn darparu cymorth gwerthfawr. Fodd bynnag, mae llawer o ffynonellau cymorth eraill hefyd, er enghraifft, cyrff cyhoeddus. Gall llawer o sefydliadau eich cyfeirio at adnoddau a gwybodaeth, cyngor ac arweiniad hefyd. Bydd y rhain yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych yn byw. Dyma restr gychwynnol o sefydliadau y gallech ystyried cysylltu â hwy neu ymchwilio iddynt (os nad ydych wedi gwneud hynny yn barod):