Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.1 Y syniad busnes

Yn yr adran hon, byddwch yn dechrau edrych ar eich syniad yn fanwl, ystyried ei ymarferoldeb a safbwyntiau rhai pobl eraill fydd â diddordeb yn hyfywedd eich syniad, gan gynnwys unrhyw safbwyntiau gwledig.

Er mwyn denu, perswadio ac ysgogi pobl â buddiannau amrywiol iawn - fel cwsmeriaid, defnyddwyr, buddsoddwyr, gweithwyr, cyflenwyr, dosbarthwyr ac ati - rhaid i'r syniad fod yn arloesol, yn ddilys ac yn hyfyw.. Rhaid iddo gynnig rhywbeth newydd a rhywbeth sydd o werth i'r holl bartïon dan sylw (a gaiff eu galw'n rhanddeiliaid yn aml) neu rai ohonynt, a'r cam hanfodol cyntaf yw bod yn rhaid iddo ddenu rhywun, neu ryw dîm, sy'n ymrwymedig i'w droi'n realiti. Gallwn ddweud mai'r person sy'n ymrwymedig i roi'r syniad ar waith yw'r entrepreneur.

Fodd bynnag, mae angen mwy nag ymrwymiad. Er mwyn troi syniadau yn realiti, mae angen adnoddau - ffisegol, ariannol anniriaethol (fel profiad, gwybodaeth ac, weithiau, hawliau cyfreithiol i ddefnyddio prosesau a chynhyrchion). Rhan bwysig o waith yr entrepreneur yw cael gafael ar yr arian i gaffael yr adnoddau hynny.

Wrth ddatblygu busnes, rydym yn defnyddio amrywiaeth o fathau cymhleth o gyfalaf. Er enghraifft , ein sgiliau ein hunain a sgiliau'r rhai rydym yn eu cyflogi yw'r 'cyfalaf dynol', ein rhwydweithiau a'n cysylltiadau yw'r 'cyfalaf cymdeithasol', a'r effaith ar y gymuned rydym yn gweithio ynddi fydd y 'cyfalaf diwylliannol’. Efallai y bydd cyfalaf cymdeithasol a diwylliannol yn hynod o bwysig os ydych yn ystyried menter gymdeithasol fel hyrwyddo cynhwysiant i oedolion sy'n agored i niwed, neu hyrwyddo'r diwylliant lleol.

Mae llawer o fusnesau gwledig bach yn dechrau gyda dim ond un person, sef perchennog y busnes, a fydd efallai'n gweithio'n rhan-amser ochr yn ochr â swydd arall i ddechrau. Mae'n sicr yn bosibl (ond yn waith caled) parhau fel hyn, hyd yn oed pan ddaw eich menter yn waith 'llawn amser’. Fodd bynnag, hyd yn oed os mai dim ond chi sy'n rhan o'ch busnes, nid yw'n bodoli ar ei ben ei hun, mae'n parhau i fod yn rhan o rwydwaith, lle mae busnesau yn dibynnu ar ei gilydd yn aml.

Mae'r rhan fwyaf o fusnesau'n tyfu digon fel bod angen iddynt gyflogi person arall neu hyd yn oed grŵp o bobl. Gweithredoedd y bobl hyn fydd yn troi'r syniad yn gynnyrch neu'n wasanaeth. Fodd bynnag, nid oes rhaid i bob un ohonynt weithio i chi. Efallai eich bod yn gwneud cynnyrch, ond nid oes rhaid i chi ei farchnata na'i ddosbarthu: gallwch gyflogi eraill i wneud hyn i chi. Yn y pen draw efallai na fyddwch hyd yn oed yn gwneud y cynnyrch eich hun ond yn penderfynu rhoi'r gwaith cynhyrchu ar gontract i rywun arall.

Yn olaf, rhaid bod cwsmeriaid a defnyddwyr ar gael ar gyfer y cynhyrchion rydych wedi'u datblygu o'r syniad, sydd eisiau'r cynhyrchion hynny ac sy'n barod i wario eu harian prin arnynt. Yn aml, gallwch sicrhau llwyddiant menter drwy ddiwallu angen lleol neu gallwch dargedu marchnad ehangach. Beth bynnag fo'i faint, mae'n debygol y bydd yn rhaid i'ch syniad busnes fod yn ddigon cryf i gael yr arian, y sgiliau a'r cymorth busnes arall sydd eu hangen er mwyn ei helpu i droi'n realiti. Mae hynny'n swnio'n anodd iawn, ond yn aml iawn, efallai mai'r hyn sy'n unigryw am eich cynnyrch neu'ch syniad yw'r gwerthoedd sy'n sail iddo neu hyd yn oed y lleoliad. Felly, efallai bod siop gymunedol neu siop leol yn ddrud neu nad yw'n gwerthu dewis eang o gynhyrchion, ond gall trigolion gwledig gydbwyso'r gost honno yn erbyn costau teithio y gallent eu talu er mwyn teithio rhywle arall i siopa, a gallant hefyd deimlo ei bod yn bwysig cefnogi eu siop leol.

Tasg 7: Y syniad busnes

Er mwyn bod yn ffyddiog bod eich syniad yn ddigon cryf i lwyddo mewn marchnad gystadleuol, bydd angen i chi ateb y cwestiynau canlynol yn drylwyr (ar hyn o bryd, gall hyn fod yn anodd - ond dylai fod gennych syniad llawer cliriach erbyn diwedd yr uned):

  1. Mewn un frawddeg, beth yw eich syniad busnes?
  2. Pa nodweddion unigryw neu wahanol sydd ganddo?
  3. Pa fathau o gwsmeriaid sy'n debygol o gael eu denu at ei fuddiannau?
  4. Faint o gwsmeriaid sydd ar gael o bosibl?
  5. A oes digon ohonynt yn barod i dalu'r prisiau neu'r ffioedd i gwmpasu eich holl gostau a rhoi bywoliaeth resymol i chi?

Ysgrifennwch eich atebion (hyd yn oed os mai dim ond syniadau bras ydynt) fel y gallwch gyfeirio atynt yn nes ymlaen.

Rhannwch eich syniadau ag entrepreneuriaid eraill yn eich rhwydweithiau lleol.