2.3 Camau at lwyddiant
Mae angen i'r entrepreneur neu berchennog y busnes fod yn argyhoeddedig y bydd y syniad yn gweithio ac mae angen digon o egni arno i ddatblygu'r syniad fel ei fod yn barod i'w lansio ar y farchnad dan sylw. Weithiau bydd yr arian sydd ei angen yn dod o gronfeydd personol, weithiau o grantiau ac weithiau gan fanciau, cyfalafwyr menter neu ffynonellau ariannu eraill.
O ble bynnag ddaw'r cyfalaf, mae'n bwysig gwybod yn glir beth yw'r nodau byrdymor a'r nodau tymor hwy. Os daw'r arian o ffynonellau personol neu deuluol, efallai mai sgwrs ddarbwyllol fydd ei hangen yn hytrach na chynllun busnes ffurfiol. Fodd bynnag, mae'n arfer gorau, o ble bynnag ddaw'r cyllid, i gael rhyw fath o gynllun busnes - cynllun sydd â nodau clir sy'n mapio eich llwybr at lwyddiant.
Mae angen i'ch nodau fod yn rhai CAMPUS er mwyn bod yn ddefnyddiol.
- Cyraeddadwy
- Amserol
- Mesuradwy
- Penodol Uchelgeisiol
- Synhwyrol.
Er enghraifft, mae 'Rwy am gael busnes sy'n rhoi incwm da i mi' yn swnio'n iawn i ddechrau, ond beth yw 'da'? I rai, byddai incwm o £10,000 yn iawn, ond efallai y byddai angen £50,000 neu £100,000 ar eraill.
Enghraifft o nod CAMPUS fyddai: 'Ymhen dwy flynedd (amserol) bydd gennyf drosiant o £500,000 (mesuradwy a phenodol) gyda maint elw o 20 y cant (mesuradwy)’.
Mater o farn yw pa un a yw'r nod yn gyraeddadwy, yn dibynnu ar eich marchnad a'ch man cychwyn. Nid yw sicrhau bod nod yn 'gyraeddadwy' yn golygu bod yn rhaid iddo fod yn hawdd i'w gyflawni; mae angen iddo fod yn heriol, hefyd.
Pan fyddwch yn gweithio i rywun arall, mae angen i'ch rheolwr gytuno ar y nod; pan mai chi yw perchennog y cwmni, mae angen nodi pa adnoddau sydd eu hangen ac mae angen i chi gytuno arnynt â'ch bwrdd cyfarwyddwyr, y rheolwr banc, eich teulu a'ch staff os yw hynny'n briodol.
Tasg 9: Diffinio nodau'r busnes
- Meddyliwch am ble yr hoffech i'ch busnes fod ymhen 12 mis. Byddwch yn mireinio'r nodau hyn wrth i chi fynd drwy'r uned ac wrth i chi gasglu rhagor o wybodaeth i'w llywio. Mae'n anochel y bydd y nodau byrdymor yn cael eu disgrifio'n fanylach na'r nodau tymor hwy.
- Nawr ysgrifennwch eich nodau ar gyfer eich busnes ymhen tair i bum mlynedd.
- Gwnewch yn siŵr mai CAMPUS yw'r nod
- Rhannwch eich nodau ag entrepreneuriaid eraill yn eich rhwydweithiau lleol.
Ynghyd â'r datganiad clir o'ch syniad busnes, dyma'r cam cyntaf i lunio eich cynllun. Bydd angen y wybodaeth hon ar gyfer eich AGCB [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Mae'n diffinio'r cyfeiriad strategol y byddwch yn ei ddilyn - ond mae mwy i ddod ar hynny.