Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.4 Strwythur y cwmni

Un o'r penderfyniadau y bydd yn rhaid i chi ei wneud yw sut i strwythuro eich busnes. Mae hyn yn golygu'r strwythur cyfreithiol nid strwythur y sefydliad.

Os ydych yn bwriadu sefydlu cwmni masnachol, gallwch ddewis un o'r mathau cyfreithiol canlynol:

  • unig fasnachwr
  • partneriaeth
  • partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig
  • cwmni cyfyngedig
  • masnachfraint
  • menter gymdeithasol.

Mae trosolwg o'r strwythurau cyfreithiol ar gael yn Busnes Cymru [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . sy'n egluro'r ffurfiau cyfreithiol gwahanol yn glir. I gael rhagor o gyngor, cysylltwch â'ch cyfrifydd neu'ch cynghorydd.

Mae agenda Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio'n ddiweddar ar 'gymunedau', gan ddarparu arian er mwyn helpu i sefydlu amrywiaeth o fentrau 'dielw', cwmnïau cymunedol, mentrau cymdeithasol, elusennau neu gwmnïau buddiannau cymunedol. Gwnaethom grybwyll pwysigrwydd cynyddol y sefydliadau hyn ar ddechrau'r uned yn ogystal â'ch cyfeirio at amrywiaeth o wasanaethau cymorth a chyngor.

Wrth sefydlu un o'r rhain, bydd angen i chi (a'ch cymuned) ystyried yn union yr un pethau ag unrhyw fenter breifat neu fenter sy'n anelu at wneud elw; galw, hyfywedd ariannol, sgiliau a gallu, a sut i gael gafael ar arian. Fodd bynnag, gan fod y rhain yn aml yn gyrff sy'n cael eu rheoleiddio'n gyhoeddus, mae ganddynt strwythur cyfreithiol cymhleth a dylech gysylltu ag un o'r sefydliadau a restrir yn Dolenni i gael cyngor priodol.