2.5.1 Astudiaeth achos: Ffactorau STEEP
Astudiaeth achos: Ffactorau STEEP
Pa rai o'r ffactorau STEEP sy'n effeithio fwyaf ar syniadau busnes Gwenllian?
Bydd yr holl ffactorau STEEP yn dylanwadu ar Gwenllian, a'r rhai mwyaf dylanwadol fydd y ffactorau economaidd, cymdeithasol, technolegol ac amgylcheddol.
Mae'r ffactor cymdeithasol sy'n ymwneud â newidiadau ym mhroffiliau demograffig (mwy o bobl yn mudo ar draws ffiniau Ewrop), yn golygu bod yn rhaid i'r gymuned fusnes addasu a newid yn gyson y ffordd y mae'n gweithio'n lleol, yn rhanbarthol ac yn rhyngwladol. Mae hyn yn golygu y bydd y sgiliau iaith sydd eu hangen i ymateb yn newid yn gyson hefyd. Felly, mae gwasanaeth iaith hyblyg a phwrpasol i ddiwallu anghenion y sectorau busnes gwahanol yn debygol o fod yn gynnig masnachol cynyddol boblogaidd.
Caiff hyn ei atgyfnerthu gan globaleiddio, sef y ffactor economaidd, sy'n golygu bod cynhyrchion yn cael eu cyrchu a'u masnachu'n rhyngwladol ac o fewn amserlenni tynnach. Gall gwasanaeth iaith a all gynnig gwasanaeth tiwtora cyflym, effeithiol o safon prifysgol, yn seiliedig ar anghenion masnachol penodol y cleient, olygu'r gwahaniaeth rhwng ennill a cholli contractau tramor. Felly mae'r ffactor economaidd yn hanfodol i Gwenllian. Bydd yn rhoi cyfle busnes sylweddol iddi hi.
Mae manteision ac anfanteision i ffactorau technolegol o ran bod defnyddwyr yn fwy soffistigedig, oherwydd y defnydd eang a wneir o gyfrifiaduron, y rhyngrwyd a chymwysiadau cyfathrebu symudol a di-wifr newydd. Yn ffodus i Gwenllian, mae ganddi brofiad o ddarparu gwasanaeth dysgu o bell dan arweiniad drwy ei gwaith Prifysgol ac o ddefnyddio Skype a'r ffôn i gynorthwyo ei myfyrwyr. Mae ganddi hefyd brofiad o ddefnyddio deunyddiau ar CD a gall gynllunio a darparu rhaglenni dysgu pwrpasol aml-lwyfan.
Serch hynny, bydd angen iddi fod yn ymwybodol o'r datblygiadau addysgol diweddaraf ym maes dysgu o bell dan arweiniad ac ar-lein er mwyn parhau i fod yn gystadleuol. Fodd bynnag, efallai mai un o'r prif heriau i dwf busnes Gwenllian yn y dyfodol fydd y mynediad amrywiol iawn at fand eang (cyflymder rhesymol) sy'n parhau i fod yn broblem arbennig yng Nghymru wledig.
Mae ymwybyddiaeth gynyddol o faterion amgylcheddol yn golygu bod gallu Gwenllian i addysgu drwy ddulliau amrywiol (tiwtora wyneb yn wyneb, drwy gyswllt Skype a thros y ffôn, a thrwy raglenni aml-lwyfan yn gwneud ei busnes yn ddeniadol iawn gan fod ganddo ôl troed amgylcheddol hyblyg iawn. Mae'r hyblygrwydd hwn yn arbennig o gadarnhaol mewn cyd-destun gwledig lle nad oes digon o drafnidiaeth gyhoeddus a lle na all busnesau fforddio talu am yr amseroedd teithio i astudio.
O safbwynt gwleidyddol, mae busnes Gwenllian yn elwa ar ôl troed carbon isel, y ffaith ei fod yn cefnogi dyheadau Llywodraeth Cymru o ran yr economi wybodaeth ac yn helpu i ddatblygu cyrhaeddiad byd-eang cryfach i economi Cymru.
Task 10: STEEP factors
- Adolygwch y rhestr o ffactorau STEEP [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ac ystyriwch pa rai sydd fwyaf arwyddocaol i'ch syniad busnes.
- Gwnewch eich ymarfer STEEP bach eich hun drwy edrych ar bob un o'r pum maes a nodwyd yn eich ardal. Defnyddiwch y templed STEEP .
- Rhannwch eich rhestr STEEP ag entrepreneuriaid eraill yn eich rhwydweithiau lleol.
Gadael sylw
Roedd gan David rai sylwadau am ei fusnes.
Ffactor STEEP | Arwyddocâd | |
---|---|---|
Rhwydweithiau Mentrau Cymdeithasol | Mae'r boblogaeth sy'n heneiddio yn golygu bod mwy o ymfudwyr ffordd o fyw yn symud i ardaloedd gwledig sydd am adnewyddu hen adeiladau neu adeiladu o'r newydd. Gall y grŵp hwnnw gynyddu busnes. Mae llai o gyfleoedd ar gael i bobl ifanc yn yr ardal ac efallai y byddant yn chwilio am brofiad gwaith. Efallai y gallwn recriwtio prentis fel ffordd gost-effeithiol o dyfu'r busnes. | cysylltiadau â'r boblogaeth sy'n heneiddio a newidiadau i anghenion a dyheadau cwsmeriaid, newidiadau i systemau addysg |
Technoleg | Gallwn gael gwefan i ddangos fy ngrisiau a hysbysebu fy ngweithdai saernïo. Erbyn hyn, mae cleientiaid yn aml yn disgwyl gweld modelau 3D ar y cyfrifiadur. Gallwn ddysgu sut i ddefnyddio meddalwedd dylunio (efallai bod y coleg lleol yn rhedeg cwrs). | cyflymder a gallu cyfathrebu, defnyddwyr mwy soffistigedig oherwydd lledaeniad y rhyngrwyd a TGCh |
Economaidd | Wrth i'r hinsawdd economaidd wella, gallai'r potensial ar gyfer fy nghynhyrchion gynyddu. Mae llai o fasnachwyr pren a seiri lleol yn gweithio o ddechrau proses hyd at a diwedd, sy'n golygu bod busnesau tebyg wedi canoli yn y dinasoedd. Mae'r ffaith bod pobl yn chwilio'n lleol wedi golygu bod mwy o gyfleoedd safon uchel yn cael eu cynnig gan y rhai sy'n chwilio am rywbeth gwahanol. | |
Amgylcheddol | Mae defnyddio cynhyrchion cynaliadwy bob amser yn bwysig, yn ogystal â defnyddio cynhyrchion lleol. Bydd fy mhren yn dod o'r ardal leol lle mae rhaglen ailblannu ar waith. Gallwn hefyd ystyried defnyddio deunyddiau wedi'u hadfer. Byddwn yn sicrhau bod fy nulliau cynhyrchu a'r gweithdy yn ecogyfeillgar. | cysylltiad llac â chynhesu byd-eang |
Gwleidyddol | Nid wyf yn siŵr a oes unrhyw ddylanwadau gwleidyddol, ond mae ymdeimlad cynyddol o hunaniaeth â'n rhanbarth o fewn y DU.. |
Mae David wedi ystyried y ffactorau STEEP byd-eang a'u hasesu o safbwynt lleol. Mae wedi gweld sut mae rhai o'r ffactorau hyn wedi dylanwadu ar ei amgylchedd lleol. Mae'n adnabod llawer o'r crefftwyr lleol, ac mae'n gwneud tybiaethau o ran y farchnad yn seiliedig ar ei brofiadau. Mae natur busnes David yn golygu nad yw'n debygol o allforio ei gynnyrch. Gall gwerthu i bobl leol fod yn beth buddiol i David, gan ei fod yn cynnig cynnyrch a gwasanaeth lleol nad oes unrhyw un arall yn eu darparu. Os ydych yn ystyried manwerthu cynnyrch, efallai y byddwch ond yn dewis ei werthu'n lleol. Fodd bynnag, nid yw byw'n lleol yn golygu bod yn rhaid i chi werthu eich cynnyrch neu'ch gwasanaeth yn lleol, ond efallai y byddwch yn dewis defnyddio eich ardal fel marchnad beilot, tra'ch bod yn sefydlu eich cynnyrch o leiaf.