Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.5 Asesiad amgylcheddol

Bydd yr amgylchedd o'ch cwmpas a sut mae'n newid yn dylanwadu ar siawns eich busnes o lwyddo. Mae'n bwysig ystyried pa ffactorau sy'n bwysig a deall sut y maent yn dylanwadu ar eich siawns o lwyddo. Yn ystod y cyfnod ers yr Ail Ryfel Byd, gwelwyd newid a datblygiadau digynsail ledled y byd mewn pum maes allweddol - cymdeithasau, technolegau, datblygu economaidd, yr amgylchedd, a systemau gwleidyddol a rheoliadau. Rydym yn galw'r meysydd hyn yn ffactorau STEEP yn Saesneg ac mae cyflymder y newid wedi cynyddu drwy'r rhan fwyaf o'r byd yn ystod y blynyddoedd diweddar. Dysgwch sut y defnyddiodd entrepreneur STEEP mewn trac sain, Cyfleoedd Entrepreneuraidd [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Mae hwn yn defnyddio cyfres o adnoddau sy'n ystyried cyfleoedd entrepreneuraidd sy'n ymddangos drwy gydol yr uned.

Ffynonellau o newid sylweddol sy'n deillio o ffactorau STEEP

Rhwydweithiau Mentrau Cymdeithasol

  • Poblogaethau sy'n heneiddio drwy'r rhan fwyaf o'r byd diwydiannol
  • Twf mewn mudo torfol a phoblogaethau ffoaduriaid
  • Heriau i ddarpariaethau lles a systemau addysgol
  • Newidiadau i anghenion a dyheadau defnyddwyr.

Technolegol

  • Cyflymder a chapasiti cyfathrebu
  • Cyfraith Moore (mae capasiti data sglodion cyfrifiadurol yn dyblu bob 18 mis)
  • Defnyddwyr yn fwy soffistigedig oherwydd y defnydd eang o gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd
  • Cymwysiadau cyfathrebu symudol a di-wifr newydd
  • Darganfyddiadau a chymwysiadau biolegol a genetig.

Economaidd

  • Integreiddio marchnadoedd ariannol y byd
  • Twf Brasil, Rwsia, India a Tsieina fel pwerau economaidd byd-eang newydd
  • Cysylltiadau rhwng yr Ewro a doler yr UD
  • Blaengaredd y model 'marchnad rydd, masnach rydd'
  • Mynediad cyflym a chynyddol dryloyw at wybodaeth
  • Lleihad mewn costau trafodion.

Amgylcheddol

  • Newid yn yr hinsawdd
  • Cnydau a chynnyrch wedi'u haddasu'n enetig
  • Risg uwch o epidemigion a chlefyd (AIDS, BSE, SARS ac ati) am fod poblogaethau dynol ac anifeiliaid yn fwy symudol
  • Niwed ecolegol; dibyniaeth ar ffynonellau ynni anadnewyddadwy i bob pwrpas.

Gwleidyddol

  • Yr Undeb Ewropeaidd
  • Sefydliad Masnach y Byd
  • Mwy o reoleiddio
  • Adfywiad rhanbarthol
  • Gwrthdaro ethnig, cenedlaetholdeb a ffwndamentaliaeth filwriaethus
  • Statws newidiol yr UD fel yr unig uwch-bŵer a phwysigrwydd cynyddol Tsieina ar y llwyfan rhyngwladol.

Mae'r newidiadau hyn yn bellgyrhaeddol ac yn effeithio arnom i gyd. Bydd rhai o'r rhain wedi arwain at y cyfle sydd gennych nawr.

Rhai o'r newidiadau mwyaf trawiadol a welwyd yw'r technolegau newydd sydd wedi'u cyflwyno a'r cymwysiadau sy'n seiliedig arnynt. Er enghraifft, mae lledaeniad cyflym a byd-eang bron technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) ar ffurf cyfrifiaduron, band eang, y rhyngrwyd, teleffoni symudol a'r llu o gymwysiadau eraill sy'n deillio ohonynt, wedi lleihau amser cyfathrebu ac wedi cynyddu mynediad at wybodaeth i'r fath raddau bod cystadleuaeth fyd-eang yn cyrraedd yr economïau mwyaf lleol a gwledig. Fodd bynnag, mae rhai ardaloedd gwledig yn dal i wynebu problemau o ran band eang.

Yn gyffredinol, mae globaleiddio (sef integreiddio marchnadoedd ariannol, cynhyrchion, adnoddau a gwasanaethau byd-eang) wedi annog twf busnesau rhyngwladol a brandiau byd-eang ac, yn baradocsaidd, wedi annog lleoleiddio (hyrwyddo gweithgareddau a hunaniaethau cymunedol, lleol a rhanbarthol unigryw).

Caiff y ddwy duedd groes hyn eu hadlewyrchu yn y ffaith bod defnyddwyr yn uniaethu fwyfwy â brandiau byd-eang a'r adfywiad yn niddordeb defnyddwyr mewn cynhyrchion a bwydydd lleol. Caiff ardaloedd gwledig eu cynnwys fwyfwy yn yr economi genedlaethol a rhyngwladol drwy'r rhyngrwyd. Tra bod y rhyngrwyd yn galluogi mentrau gwledig i gael mynediad i farchnadoedd ehangach, mae hefyd yn gweithio i'r gwrthwyneb; gall brandiau cenedlaethol a rhyngwladol werthu eu cynnyrch yn haws mewn ardaloedd gwledig.

O ganlyniad, gall hyd yn oed mân newidiadau i unrhyw rai o'r ffactorau STEEP ddylanwadu ar economïau lleol a chyflwyno heriau a chyfleoedd sylweddol i fusnesau. Gan edrych unwaith eto ar y ffynonellau cyffredin o syniadau busnes newydd yn adran 2.1, gallwch weld bod llawer ohonynt yn deillio o newidiadau i un neu ragor o'r ffactorau STEEP.

Gall y newidiadau hyn hefyd gyfyngu ar opsiynau ac effeithio'n andwyol ar fusnesau sydd eisoes yn bodoli a chynlluniau i'r dyfodol. Yn gyffredinol, bydd effeithiau ffactorau STEEP yn amrywio yn ôl strwythur diwydiannau a marchnadoedd mewn rhanbarthau gwahanol.