Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.6.1 Astudiaeth achos: Dadansoddi rhanddeiliaid

Beth am weld sut aeth Gwyneth ati i ddadansoddi ei rhanddeiliaid:

Astudiaeth achos: Gwyneth

Defnyddiais y diagram sylfaenol a'i addasu i gyd-fynd â fy sefyllfa i. Fe wnes i newid 'rhanddeiliaid', oherwydd ni fydd gennyf rai i ddechrau gan fy mod yn bwriadu dechrau fel unig fasnachwr, i 'teulu', gan y bydd fy nheulu'n dylanwadu'n fawr ar y busnes a hefyd eu hanghenion nhw yw fy mhrif flaenoriaeth.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 10 Dadansoddiad o randdeiliaid Gwyneth

Gallwn fod wedi cynnwys llawer mwy o flychau, ond penderfynais ganolbwyntio ar y rhanddeiliaid roeddwn i'n meddwl oedd bwysicaf i mi wrth i mi sefydlu'r busnes. Rwy'n siŵr bydd dylanwad pob rhanddeiliad yn wahanol ymhen 12 mis.

Ar y dechrau roedd hi'n eithaf anodd meddwl bod gan bob un o'r bobl hyn fuddiant yn fy nghwmni newydd a'u bod yn dylanwadu arno. Dechreuais feddwl am beth roedd pob rhanddeiliad ei eisiau gennyf a thrwy wneud hynny, daeth hynny yn fwy amlwg pa effaith y gallai pob rhanddeiliad ei chael.

Penderfynais gynnwys fi fy hun fel rhanddeiliad fel y gallwn ddadansoddi fy anghenion ochr yn ochr â phawb arall, i weld eu bod yn gyson.

Tabl 3
RhanddeiliadGofynion/anghenionPŵer/dylanwad - cryf/gwan?
Teulu

Mae angen hebrwng y plant i'r ysgol a'u casglu o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae angen i mi dreulio amser gyda nhw gyda'r nos a thros y penwythnosau.

Angen gwneud iawn am y lleihad yn fy incwm ar ôl i'r caffi leihau fy oriau gwaith - tua £250 y mis.

Cryf iawn
FiSicrhau bod y cwmni'n llwyddiannus, ennill rhywfaint o arian a chael ymdeimlad o foddhad gan fod yn agos i'r teulu, gyda'r posibilrwydd o adael fy swydd yn y caffi yn gyfan gwbl. Cryf
Cwmnïau lleolCynhyrchion o ansawdd da sy'n cynnig gwerth da am arian i gwmnïau lleol ac i gwsmeriaid gan wneud iddynt ddychwelyd ataf. Angen cyflwyno fy rhanbarth yn dda fel rhywun sy'n gwneud cynhyrchion lleol o ansawdd da.Cryf
CyflenwyrOs bydd fy musnes yn gweithio, byddaf yn dechrau gwneud archebion rheolaidd, a bydd angen i mi sicrhau bod gennyf y symiau cywir a llif arian er mwyn gallu talu'n brydlon.Canolig
Iechyd yr amgylchedd/hylendid bwyd a llywodraethu

Caiff bwyd ei gynhyrchu mewn safle glân a hylan sy'n ddiogel i mi weithio ynddo ac sy'n ddiogel i'r teulu a chwsmeriaid.

Mae angen i mi gadw cofnodion cywir o werthiannau a throsiant.

Cryf
XYZ condimentsBydd gennyf gystadleuaeth - o fanwerthwyr mawr ond hefyd cynhyrchwyr lleol eraill - efallai y gallwn helpu ein gilydd weithiau?Canolig
BancBydd angen i mi fenthyca arian i dalu am gyflenwadau arlwyo diwydiannol a stondin ar gyfer y marchnadoedd a'r ffeiriau. Mae'r banc yn disgwyl elw rhesymol ar ei fuddsoddiad ac yn disgwyl i mi wneud taliadau rheolaidd.Canolig
Fy rhieni

Maen nhw wedi rhoi rhywfaint o arian i mi tuag at fy set gyntaf o jariau a labeli. Er nad oes unrhyw bwysau arnaf ar hyn o bryd, hoffwn ddychwelyd yr arian iddynt rywbryd - maen nhw am i fi lwyddo.

Maen nhw hefyd yn gofalu am y plant dros y penwythnosau ac yn ystod gwyliau'r ysgol.

Canolig

Nodais pa mor gryf oedd gofynion pob rhanddeiliad a helpodd hyn fi i weld pa rai i'w blaenoriaethu.

Nid oeddwn yn siŵr ynglŷn â phŵer fy rhieni gan eu bod yn rhesymol iawn, ond pe byddent yn rhoi'r gorau i helpu gyda'r plant, byddent yn bwerus dros ben! Bydd angen i mi feddwl sut y gall fy musnes a bywyd teuluol addasu i'w gilydd dros amser, os bydd fy musnes yn llwyddo. Ni allaf bob amser warantu y bydd fy rhieni'n ddigon iach neu y bydd ganddynt ddigon o amser i helpu gyda'r plant - er ei fod ychydig yn gryfach nag 'ewyllys da', nid wyf yn credu bod dibynnu ar ewyllys da yn ffordd dda o redeg busnes proffesiynol!

Roedd hynny wedi gwneud i mi sylweddoli bod gofynion yn newid ac y gall pŵer pob rhanddeiliad newid dros amser. Mae'n debyg y bydd angen i mi gadw llygad ar hynny wrth i'r busnes ddatblygu.

Rhaid i'ch cynllun busnes gydnabod anghenion pob un o'r rhanddeiliaid hyn. Gallwch weld bod eu hanghenion yn gwrthdaro â'i gilydd yn aml, er enghraifft, angen gweithwyr i gael cyflog da ac angen cwmnïau lleol i gael brechdanau am y pris isaf posibl. Wrth redeg busnes, rhaid cydbwyso'r buddiannau croes hyn er mwyn dod i gyfaddawd sy'n dderbyniol i gynifer o randdeiliaid â phosibl.