2.8 Beth yw strategaeth?
Mae sawl diffiniad o strategaeth:
- Chandler (1962) ‘The determination of the basic long-term goals and objectives of an enterprise, and the adoption of courses of action and the allocation of resources necessary for those goals.’
- Andrews (1971) ‘Every business organisation, every sub-unit of an organisation and even every individual (ought to) have a clearly defined set of purposes or goals that keep it moving in a deliberately chosen direction and prevent it drifting in an undesired direction.’
- Porter (1985) ‘A process of analysis that is designed to achieve the competitive advantage of one organisation over another in the long term.’
- Henderson (1984) ‘To enable an organisation to identify, build and deploy resources most effectively towards the attainment of its objectives.’
Pa ddiffiniad bynnag rydych chi'n ei ffafrio, mae pob un ohonynt yn pwysleisio bod strategaethau'n ymdrin â'r tymor hir:
- gweledigaeth glir drwy nodau
- deall eich amgylchedd allanol er mwyn sicrhau bod y nodau'n realistig
- neilltuo adnoddau'n briodol i'r tasgau a fydd yn fwyaf tebygol o helpu'r cwmni i roi ei strategaeth ar waith.
Fel perchennog busnes bach, mae'n anochel y byddwch yn ymwneud â phob agwedd ar y busnes, yn enwedig i ddechrau.
Mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng meddwl yn weithredol a meddwl yn strategol. Mae meddwl yn weithredol yn ymwneud â'r tasgau neu'r gweithgareddau hynny sy'n gysylltiedig â gwaith y cwmni o ddydd i ddydd. Gall amrywio o wneud grisiau ymarferol a deniadol (David), cynhyrchu relish blasus ac unigryw ar gyfer brechdan (Gwyneth), drafftio e-bost marchnata (Dafydd), cynllunio cwrs iaith (Gwenllian) i fonitro purdeb y dŵr o ffynnon y fferm (Euan). Y nod yw cwblhau'r tasgau hyn mor effeithlon â phosibl er mwyn lleihau costau i'r eithaf a gwella allbwn y cwmni.
Wrth feddwl yn strategol rydych yn ystyried y busnes mewn ffordd fwy cyfannol. Rydych yn dwyn yr holl weithgareddau ynghyd ac yn ystyried sut maent yn cysylltu â'i gilydd er mwyn cyflawni amcanion cyffredinol y cwmni. Mae'r ymagwedd meddwl yn strategol yn gofyn sut y gellir cysoni'r tasgau, eu cyfuno neu'u cyflawni mewn ffordd wahanol er mwyn gwella. Yn achos sefydliad dielw, rhaid i'r cysylltiad rhwng yr agweddau hyn hefyd ystyried ethos neu nodau ehangach y sefydliad. Darllenwch ragor o wybodaeth am greu sefydliad moesegol [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .
Mae llawer o berchenogion busnesau bach yn euog o weithio yn y busnes yn hytrach na gweithio ar y busnes. Mae'n hawdd ymgolli cymaint yn y gwaith o fodloni gofynion gweithredol dyddiol fel nad oes amser ar ôl i feddwl yn strategol am y tymor hwy.