Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.9 Llunio strategaeth

Rydych bellach wedi ystyried yr amgylchedd allanol ac wedi edrych yn fanylach ar sut mae ffactorau STEEP yn effeithio ar eich marchnad leol a sut y gallwch uniaethu â'ch cyflenwyr a'ch cwsmeriaid gan ddefnyddio gwybodaeth am gynhyrchion amgen a chystadleuwyr newydd. Rydych hefyd wedi gwneud rhywfaint o waith dadansoddi.

Mae angen i chi feddwl nawr am eich opsiynau tymor hwy a dewis y ffordd orau o weithio er mwyn cyflawni eich amcanion. Mae'n rhaid i chi benderfynu ar eich strategaeth a'i gweithredu.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Figure 13 Y strategaeth

Caiff llawer o strategaethau eu pennu ar sail dadansoddiadau trylwyr, efallai rhywfaint o ymchwil, a phenderfyniadau clir. Daw llawer o strategaethau eraill i'r amlwg wrth i gwmni dyfu neu ddechrau. Nid yw'r naill ddull na'r llall yn anghywir.

Mae'n bwysig adolygu eich strategaeth yn erbyn canlyniadau bob amser i wneud yn siŵr ei bod yn gweithio. Gall llawer o bethau newid o fewn y ffactorau STEEP, a all olygu bod angen adolygu'r strategaeth, ond mae'n bwysig rhoi amser iddi weithio. Cofiwch fod strategaeth yn gynllun hirdymor - ni allwch ei newid bob wythnos!

Gall mentor fod yn arbennig o werthfawr i chi wrth ddatblygu ac adolygu eich strategaeth. Gallant eich helpu i weld beth sy'n bwysig a gofyn y cwestiynau a all weithiau fod yn anodd i'w gweld pan rydych wrthi'n gweithio'n galed o ddydd i ddydd.

Tasg 13: Nodi eich opsiynau strategol

  1. Pa opsiynau sydd gennych a allai gyflawni eich amcanion?
  2. Rhestrwch fanteision ac anfanteision pob opsiwn.
  3. Pa wybodaeth arall sydd ei hangen arnoch cyn y gallwch wneud penderfyniad?

Bydd angen i chi ddefnyddio canlyniad y gweithgaredd hwn yn eich AGCB [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .

Rhannwch eich syniadau ag entrepreneuriaid eraill yn eich rhwydweithiau lleol .

Gadael sylw

Astudiaeth achos: Euan

Syniad busnes Euan yw sefydlu bragdy bach ar fferm y teulu.

Yn ei farn ef, yr opsiynau sydd ganddo yw:

  • cael caniatâd i drosi'r adeiladau fferm segur presennol yn siediau bragu (efallai y bydd angen gwneud cais cynllunio)
  • buddsoddi mewn peiriannau ar gyfer y prosesau paratoi haidd a hopys a bragu
  • buddsoddi amser ac arian mewn hyfforddiant i ddysgu sgiliau bragu
  • canolbwyntio ar y pwyntiau gwerthu unigryw i farchnata'r cwrw
  • defnyddio adnoddau'r fferm i ddarparu cynhwysion, fel haidd y gaeaf
  • ystyried safleoedd manwerthu, y posibilrwydd o wneud gwerthiannau ar y fferm drwy siop, a gwerthiannau ar-lein
  • ystyried opsiynau ar gyfer twristiaeth bwyd drwy gynnal teithiau o gwmpas safle'r bragdy.

Yn yr enghraifft hon, nid yw pob un o'r opsiynau’n annibynnol ar ei gilydd. Mae angen gwybodaeth fanwl ar Euan i'w helpu i benderfynu. Mae angen iddo gasglu gwybodaeth am faint o amser y bydd yn ei gymryd iddo brynu'r peiriannau a sefydlu'r bragdy bach.

Wrth asesu sut i ymuno â'r farchnad, bydd angen iddo ystyried y cyfyngiadau ar adnoddau ar y fferm a'r arbenigedd sydd gan ei deulu yn barod. Fel ffermwyr, mae ef a'i rieni'n gyfarwydd â rhedeg busnes, ond bydd rhai gwahaniaethau pwysig rhwng ffermio a bragu.

Efallai y bydd yn rhaid i Euan drafod sut mae aildrefnu lle ar y fferm, ond mae'n debygol na fydd hyn yn ysgogydd strategol. Drwy adolygu ei ganlyniadau'n fanwl yn erbyn ei strategaeth ddewisol, gall weld a oes angen mwy o le arno (h.y. ni fydd yn gallu ateb y cwestiynau hyn hyd nes bod y busnes wedi dechrau gweithredu). Os mai ei amcan busnes oedd cyflenwi haidd y gaeaf i fragwyr eraill, yna gall newid defnydd caeau o fod yn gaeau pori i fod yn gaeau tyfu fod yn benderfyniad strategol.

Cadwch yr opsiynau strategol hyn mewn cof wrth fynd drwy weddill y cwrs. Byddwch yn ychwanegu rhagor o wybodaeth at eich dadansoddiad wrth i chi fynd yn eich blaen. Bydd hyn yn eich helpu i benderfynu pa opsiwn strategol sy'n gweddu orau i'ch cwmni newydd.