3.1.1 Anghenion cwsmeriaid
Mae prynwyr yn dilyn yr un broses sylfaenol, waeth pa gynnyrch neu wasanaeth y maent yn ei brynu. Fodd bynnag, gall y broses gymryd mwy o amser a bod yn fwy trylwyr os mai cynnyrch gwerth uchel sydd dan sylw. Mae proses gyfnewid sylfaenol rhwng cwsmer a sefydliad.
Tasg 15: Anghenion cwsmeriaid
Ystyriwch gynnyrch neu wasanaeth y bydd eich cwmni yn ei ddarparu.
Disgrifiwch y broses gyfnewid â chwsmer drwy lenwi'r blychau yn y templed Anghenion cwsmeriaid [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .
Efallai yr hoffech ystyried nifer o gwsmeriaid gwahanol - mae'n bosibl y gwelwch fod ganddynt anghenion gwahanol iawn.
Rhannwch eich syniadau ag entrepreneuriaid eraill yn eich rhwydweithiau lleol .
Gadael sylw
Astudiaeth achos: Gwyneth
I ddechrau, gallai Gwyneth ystyried y cwsmeriaid sy'n prynu ei jamiau, ei chyffeithiau a'i siytnis mewn marchnadoedd ffermwyr a ffeiriau bwyd neu pan fydd yn ymweld â'u safleoedd busnes. Maent yn prynu'r cynnyrch i'w fwyta. Mae'r cwsmer hwn am gael bwyd unigryw, ffres. Mae Gwyneth am i'r cwsmer hwn brynu ganddi bob mis a dweud wrth ei ffrindiau pa mor dda yw'r cynnyrch.
Mae anghenion y cwsmer hwn yn ymwneud â natur ac ansawdd y bwyd yn bennaf. Er mwyn diwallu anghenion y cwsmer hwn, rhaid i Gwyneth ddarparu gwasanaeth cyson. Rhaid bod ei holl gynhyrchion ar gael bob tro y bydd yn mynd i farchnad, lle bydd ganddi slot amser rheolaidd. Rhaid i ansawdd y cynnyrch ei hun fod yn ddibynadwy.
Pan fydd Gwyneth yn ystyried y rheolwr manwerthu sy'n prynu ar gyfer y deli, mae'n rhaid iddi ystyried ei anghenion fel busnes hefyd. Mae'r rheolwr am gael trefn archebu hawdd a dibynadwy, gan amrywio'r archeb os oes angen. Mae'r rheolwr am allu cynnig samplau i gwsmeriaid er mwyn dangos ansawdd y cynnyrch a'i farchnata, felly rhaid sicrhau bod rhywfaint o stoc dros ben. Bydd angen anfonebu'n gywir ac yn brydlon. Mae'r rheolwr hefyd am gael bwyd da heb unrhyw gwynion gan gwsmeriaid!
Mae anghenion y cwsmer hwn yn ehangach na'r bwyd yn unig. Mae ganddo hefyd anghenion sy'n ymwneud â systemau a phrosesau cwmni Gwyneth. Er mwyn diwallu anghenion y cwsmer hwn, rhaid bod gan Gwyneth wasanaeth dosbarthu dibynadwy, proses archebu ac anfonebu dda a'r gallu i ymdopi'n ariannol â thaliadau sydd ddiwrnod yn hwyr.