Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.2 Y llwybr prynu

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 15 Y llwybr prynu

Mae'r diagram hwn yn dangos y llwybr y bydd prynwyr yn ei ddilyn wrth benderfynu beth i'w brynu.

Mae pwysau cystadleuol yn dylanwadu ar bob un ohonom pan fyddwn yn prynu rhywbeth. Efallai y byddant yn amlwg, fel hysbyseb neu hyrwyddiad uniongyrchol, neu'n llai amlwg, fel sylwadau gan ffrindiau a theulu. Felly caiff y syniad o 'angen' ei blannu a bydd yn tyfu hyd nes bod y cwsmer yn barod i ystyried pryniant yn fwy difrifol. Caiff gwybodaeth ei chasglu cyn y gellir gwneud dewis ac yn y pen draw, caiff pryniant ei gwblhau. Mae'r diagram yn dangos nad yw'r broses wedi'i chwblhau hyd nes bod yr adborth wedi'i brosesu fel gwybodaeth a all effeithio ar ddewisiadau prynu yn y dyfodol. Bydd y cylch adborth hwn yn digwydd bob tro y caiff pryniant ei wneud.

Mae'r llwybr yn caniatáu ar gyfer pob math o ddylanwad - fel cydweithwyr, ffrindiau, teulu, profiad blaenorol ac ati. Gall rhai busnesau fod yn fwy agored i bwysau cystadleuol a dylanwadau cymdeithasol nag eraill. Mae'r rhain i gyd yn ffactorau sy'n annibynnol ar y cwmni sy'n gwerthu'r nwyddau neu'r gwasanaethau ac yn dangos yr angen am asesiad amgylcheddol cyfredol da (gweler sgan amgylcheddol) fel y gallwch ddeall pa ddylanwadau sy'n debygol o effeithio ar eich cwsmeriaid.

Mae penderfyniadau prynu gwerth uwch yn dilyn yr un llwybr ond, fel arfer, caiff mwy o amser ei dreulio'n ymchwilio i'r gystadleuaeth ac yn casglu data o gymharu â phryniannau gwerth isel.

Gwerthu i sefydliad mawr

Os ydych yn gwerthu eich cynhyrchion neu'ch gwasanaethau i sefydliad mawr, boed yn y sector cyhoeddus neu'r sector preifat, bydd y cwsmer am gael gwybodaeth am eich rhinweddau chi a'ch cwmni a rhinweddau'r cynnyrch neu'r gwasanaeth rydych yn ei gynnig. Gall y broses hon gymryd cryn dipyn o amser a chynnwys nifer o bobl, hyd yn oed os mai dim ond un person fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol. Bydd angen i chi ganfod pwy fydd yn dylanwadu ar y penderfyniad yn ogystal â phwy fydd yn gwneud y penderfyniad.

Er bod hyn yn llafurus, gall fod yn fuddsoddiad gwerth chweil. Er enghraifft, os ydych yn fenter gymdeithasol sy'n gweithio i leihau gwastraff, mae cytundeb lefel gwasanaeth â'r awdurdod lleol i roi cyngor ar leihau gwastraff neu hyd yn oed ddargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi yn debygol o roi mwy o ddiogelwch i chi na cheisiadau diddiwedd am grantiau. Noder, os hoffech werthu i'r sector cyhoeddus, dechreuwch drwy fynd i wefan GwerthwchiGymru [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .

Mae diagram y llwybr prynu yn dangos bod y broses yn parhau ar ôl y gwerthiant, wrth i'r cwsmer werthuso'r hyn y mae wedi'i brynu. Bydd y gwerthusiad hwn naill ai'n cael dylanwad cadarnhaol neu negyddol ar y tebygolrwydd y bydd y cwsmer yn prynu eto gan y gwerthwr. Peidiwch â thanbrisio pwysigrwydd argymhellion llafar fel rhan bwysig o'r gwaith o lansio ac adeiladu'r busnes.