Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.3 Ymchwil i'r farchnad - segmentu

Gallwn rannu cwsmeriaid yn 'segmentau' marchnad er mwyn deall eu hanghenion a'u dyheadau a'u targedu. Wrth segmentu, y nod yw dod o hyd i grŵp o bobl sydd ag anghenion tebyg a all gael eu diwallu gan un cynnyrch neu wasanaeth. Bydd y broses hon yn galluogi menter newydd i ganolbwyntio ei hymdrechion marchnata mewn ffordd effeithlon a chost-effeithiol. Mae segmentu hefyd yn helpu i gyfeirio adborth yn ôl i'r broses o ddylunio cynnyrch neu wasanaeth.

Ystyr targedu yw dewis pa segmentau i anelu atynt er mwyn sicrhau llwyddiant. Drwy hynny, byddwch yn canolbwyntio eich gwariant ar y segmentau targed ar draul y segmentau nad ydych yn eu targedu. Felly, mae cysylltiad annatod bron rhwng y cysyniad o segmentu a thargedu.

Mae hyn yn codi'r cwestiwn sut y gall mentrau newydd fynd ati i nodi pa grwpiau neu sectorau marchnad fydd yn prynu eu cynhyrchion neu wasanaethau a pha welliannau, addasiadau neu gynhyrchion cysylltiedig newydd fydd yn ddymunol o bosibl. I wneud hyn, bydd rhaid gwneud rhywfaint o ymchwil i'r marchnadoedd.

Mae'n anodd weithiau i gyfiawnhau'r math hwn o fuddsoddiad pan fyddwch yn wynebu'r her o wneud ymchwil i'r farchnad, yn enwedig os nad oes gennych ddigon o wybodaeth a sgiliau technegol a/neu adnoddau - hynny yw, amser ac arian. Rhaid ystyried yr amser a gymerir i wneud ymchwil yn fuddsoddiad cadarnhaol gan ei fod yn hollbwysig er mwyn lansio gwasanaeth neu gynnyrch newydd yn llwyddiannus.

Tasg 17: Segmentu a thargedu

Meddyliwch am y cwestiynau hyn a nodwch eich atebion.

  1. Sut y byddech yn diffinio eich segment marchnad presennol?
  2. Beth yw anghenion a dyheadau eich darpar gwsmeriaid nawr ac yn y dyfodol?
  3. Pa nodweddion cyffredin (os o gwbl) y mae eich darpar gwsmeriaid presennol yn eu rhannu?
  4. Pa ddata sydd gennych eisoes ar eich cwsmeriaid dewisol (e.e. daearyddol, demograffig ac economaidd-gymdeithasol)?
  5. Pa gynlluniau sydd gennych i lenwi unrhyw fylchau mewn gwybodaeth?

Rhannwch eich syniadau ag entrepreneuriaid eraill yn eich rhwydweithiau lleol .

Wrth ystyried y cwestiynau yn Tasg 17 mae'n debygol y byddwch yn gweld nad oes gennych ddigon o wybodaeth fanwl i ateb hwn yn llawn.

Ar ôl gweld bod angen mwy o wybodaeth, mae angen i chi nawr ystyried pa wybodaeth sydd ei hangen a sut i gael gafael arni. Efallai y bydd rhywfaint o'r wybodaeth ar gael yn gyhoeddus drwy chwilio ar-lein, cyfeiriaduron busnes neu fasnach, a llyfrgelloedd. Gall cynghorydd busnes lleol eich helpu hefyd. Fodd bynnag, er mwyn nodi anghenion a nodweddion cyffredin eich darpar gwsmeriaid fel y gallwch eu segmentu, mae'n debygol y bydd angen i chi wneud ymchwil benodol ac mae hynny'n aml yn fater o farn bersonol. Bydd yn anodd i chi ymateb yn hyderus ac yn fanwl hyd nes eich bod yn delio â chwsmeriaid go iawn. Fodd bynnag, y fantais o ddechrau'r broses gwestiynu nawr yw y bydd gennych syniad cliriach o ba wybodaeth am gwsmeriaid fydd yn berthnasol ac yn ddefnyddiol i'ch penderfyniadau.

Hefyd, gallwch ddechrau asesu a oes modd mesur segment posibl a sut mae gwneud hynny, a pha mor hawdd yw hi i ddiffinio aelodau'r segment. Bydd hyn yn eich galluogi i benderfynu maint y segment a pha un a yw'n debygol y bydd digon o ddarpar gwsmeriaid i'ch galluogi i gyflawni eich amcanion arfaethedig. Gallwch ddechrau gweld i ba raddau y gallwch gyrraedd y cwsmeriaid targed a sut y gallech gyfathrebu â hwy. Efallai y byddwch hyd yn oed yn dechrau llunio barn wybodus ar ba un a oes gan grwpiau arbennig o gwsmeriaid ofynion tebyg o ran gwasanaethau a chynhyrchion a pha un a yw'n debygol y bydd y segment yn sefydlog neu'n diflannu yn wyneb patrymau neu dueddiadau newydd.