Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.3.1 Camau yn y broses ymchwil i'r farchnad

Camau'r broses ymchwil i'r farchnad yw:

  1. Disgrifio'r segment cwsmeriaid targed: mae angen i'r disgrifiad o'r grŵp cwsmeriaid dan sylw fod mor fanwl â phosibl er mwyn osgoi gwastraffu adnoddau drwy gasglu data diangen (e.e. daearyddol, demograffig ac economaidd-gymdeithasol).
  2. Diffinio amcanion yr ymchwil: sut y caiff y wybodaeth ei defnyddio? Pa gwestiynau sydd angen eu gofyn er mwyn cyflawni nodau'r ymchwil?
  3. Asesu'r wybodaeth a'r data sydd eisoes ar gael: beth rydych eisoes yn ei wybod am y segment cwsmeriaid targed?
  4. Diffinio pa wybodaeth sydd ei hangen: pa segmentau sydd fwyaf deniadol? Pa anghenion a dyheadau ymhlith cwsmeriaid nad ydynt yn cael eu diwallu'n dda ar hyn o bryd? Pa mor debygol yw hi y bydd y cwsmeriaid yn prynu'r cynnyrch neu'r gwasanaeth arfaethedig dan sylw? Faint y byddant yn fodlon ei dalu?
  5. Penderfynu ar y dulliau i'w defnyddio er mwyn casglu'r data: mae dau gwestiwn hollbwysig y mae'n rhaid i ymchwilydd eu gofyn ar y cam hwn - a ddylid casglu data o ffynonellau cynradd neu eilaidd, ac a oes angen gwaith ymchwil ansoddol neu feintiol, neu'r ddau, i gyflawni amcanion yr ymchwil?
  6. Casglu'r data: y peth pwysicaf ar y cam hwn yw osgoi camgymeriadau a fydd yn creu data anghywir neu annibynadwy.
  7. Dadansoddi'r data: mae hyn fel arfer yn golygu troi gwybodaeth graidd y mae angen ei threfnu yn wybodaeth ddeallus sydd wedi'i dehongli a'i chrynhoi.
  8. Gwerthuso ac adolygu: gall hyn gynnwys ailystyried y segment cwsmeriaid dan sylw. Er enghraifft, a yw'r wybodaeth yn cadarnhau y dylid targedu'r segment gwreiddiol ac, os felly, sut y gellir gwneud hyn? A ddylai'r entrepreneur ganolbwyntio ar segment gwahanol a pha waith ymchwil y dylai ei wneud i benderfynu pa un?

Chi eich hun sy'n gwneud gwaith ymchwil cynradd. Gall fod yn ddrud ac felly y tu hwnt i gyrraedd busnesau newydd bach yn aml. Weithiau, mae'n bosibl mai amser fydd y brif gost, felly dylech ystyried yn ofalus cyn casglu eich gwybodaeth eich hun. Er enghraifft, os oeddech yn bwriadu sefydlu siop gymunedol, mae'n debygol y bydd yn rhaid i chi ofyn i'r trigolion lleol a ydynt eisiau siop ac at ba ddiben y gallent ei defnyddio er mwyn cael unrhyw arian - yn union fel unrhyw fusnes arall. Mae rhai adnoddau rhad neu am ddim ar gael i gynnal arolygon, er enghraifft SurveyMonkey [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Mae'r rhain yn eich galluogi i wneud eich gwaith ymchwil ar-lein eich hun heb wario gormod o arian.

Ymchwil eilaidd yw'r data sydd wedi'u casglu gan rywun arall. Eich gwaith chi yw dod o hyd i ddata perthnasol, chwilio drwyddynt a dod i gasgliadau sy'n berthnasol i'ch busnes. Mae'r rhyngrwyd wedi hwyluso hyn mewn un ystyr gan fod llawer o wybodaeth ar gael ar-lein. Mewn ffyrdd eraill, mae wedi gwneud y dasg yn llawer mwy anodd - mae cymaint o wybodaeth ar gael nes y gall fod yn anodd gweld pa wybodaeth sydd fwyaf perthnasol neu ddibynadwy. Gwnaethom gyfeirio at werth ffynonellau eilaidd yn gynharach pan wnaethom siarad am ddata ehangach a allai fod ar gael gan sefydliadau fel Busnes Cymru neu'ch awdurdod lleol, gweler 1 Gosod y cefndir ar gyfer busnes gwledig.