Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.3.2 Ffynonellau eilaidd o ddata ymchwil

Beth am edrych ar y ffynonellau eilaidd o ddata ymchwil yn fanylach.

  • Ffynonellau mewnol: mae cofnodion mewnol presennol yr entrepreneur neu'r cwmni yn fan cychwyn amlwg. Mae'r data yn rhad, ar gael yn hawdd ac, fel arfer, yn ddibynadwy.
  • Rhwydweithiau cysylltiadau personol: mae'r rhain yn cynnwys y cysylltiadau personol, y cydberthnasau a'r cynghreiriau y mae entrepreneuriaid yn eu datblygu dros amser, a gallant fod yn ffynhonnell gyfoethog o wybodaeth anffurfiol. Mae rhwydweithiau'n cynnwys cyflenwyr, cwsmeriaid, busnesau lleol, cysylltiadau yn y farchnad, cynghorwyr proffesiynol (rheolwyr banc, cyfrifwyr a chyfreithwyr), cyn-gydweithwyr, a ffrindiau.
  • Cymdeithasau masnach: gall y rhain fod yn benodol i ddiwydiant arbennig (e.e. Ffederasiwn Cenedlaethol yr Adeiladwyr).
  • Siambrau masnach: caiff y rhain eu trefnu'n lleol ond yn aml mae ganddynt gysylltiadau a gwasanaethau sy'n ymestyn y tu hwnt i'r economi leol.
  • Ffynonellau cystadleuol: mae'r rhan fwyaf o fusnesau'n cyhoeddi gwybodaeth sydd wedi'i hanelu at gwsmeriaid mewn gwirionedd. Fodd bynnag, gall cwmnïau bach sy'n awyddus i ymchwilio i weithgareddau cystadleuwr gael gafael ar y wybodaeth hon. Er enghraifft, mae'r wybodaeth gyhoeddedig y gallwch gael gafael arni yn cynnwys gwefannau, taflenni gwybodaeth am gynnyrch a gwasanaethau, adroddiadau a chyfrifon.
  • Arddangosfeydd a sioeau masnach: gall y rhain fod yn ffynonellau da o wybodaeth am y gystadleuaeth hefyd - bydd catalog yr arddangoswyr yn rhoi crynodeb da o'r cwmnïau sydd eisoes yn y maes a gallwch gael y deunydd darllen i gyd yn hawdd o un man. Bydd masnachfreinwyr hefyd yn rhoi gwybodaeth i ddarpar ddeiliaid rhyddfraint am ragolygon eu marchnad benodol, a gall busnesau newydd nad oes ganddynt ddiddordeb mewn derbyn masnachfraint gael y wybodaeth hon.
  • Ffynonellau eilaidd allanol: mae ffynonellau gwybodaeth allanol ar gael yn gyflym ac yn hawdd ar-lein. Gall entrepreneuriaid a busnesau bach ymchwilio cryn dipyn i'r amgylcheddau macro a micro cyn gwneud penderfyniadau strategol. Fodd bynnag, peidiwch â thanbrisio'r amser a'r ymdrech y mae'n rhaid eu buddsoddi er mwyn cael gafael ar ddata eilaidd sy'n berthnasol i'ch busnes.
  • Ffynonellau allanol eraill: mae'r rhain yn cynnwys llywodraeth ganolog a llywodraeth leol, cyfeiriaduron, ystadegau ac adroddiadau cyhoeddedig, ac erthyglau yn y wasg ac mewn cyhoeddiadau masnach cenedlaethol. Un o anfanteision ystadegau gan lywodraethau a'r rhai a gyhoeddir gan gyrff swyddogol eraill yw y gallant fod yn hen ac efallai na fyddant yn bodloni gofynion penodol.

Gellir cael gafael ar y rhan fwyaf o ffynonellau data am ddim ar y rhyngrwyd (neu mewn llyfrgell) neu gellir eu prynu am bris cymharol isel (e.e. drwy danysgrifiad).

Mae cymdeithasau masnach, siambrau masnach, banciau, prifysgolion a sefydliadau ymchwil hefyd yn ffynonellau da o wybodaeth ar gyfer meysydd penodol. Mae papurau newydd a chyfnodolion, fodd bynnag, yn dueddol o gynnwys data mwy cyffredinol ond gallant fod yn ddefnyddiol er mwyn cael gwybodaeth gefndirol.