Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.3.3 Astudiaeth achos: Ymchwil i'r farchnad

Astudiaeth achos: Dafydd

Penderfynodd Dafydd wneud rhywfaint o ymchwil i'r farchnad cyn lansio ei fusnes, gyda'i wraig Ffion a roddodd help llaw iddo.

  1. Eu syniad cyntaf oedd targedu'r farchnad gwyliau ddomestig. Gyda'r ffocws cynyddol ar fod yn ymwybodol o'ch ôl troed carbon, y pwyslais cynyddol ar leoleiddio, a'r ffaith fod gwyliau gweithgarwch yng Nghymru eisoes yn denu teuluoedd ifanc, roedd Dafydd a Ffion yn awyddus i dargedu twristiaid domestig.
  2. Roeddent am ddarganfod a fyddai'r rhai sy'n mynd ar wyliau teuluol yng Nghymru yn ystyried cyrchfan ecogyfeillgar fel blaenoriaeth wrth ddewis gwyliau hunanarlwyo, a pha un a fyddai fferm wledig yn ychwanegu gwerth fel atyniad.
  3. Roedd Dafydd a Ffion yn gwybod cryn dipyn am y farchnad dwristiaeth gan fod eu swyddi rhan amser perthnasol yn gysylltiedig â hi mewn ffyrdd amrywiol. Roedd gan Dafydd ymwybyddiaeth dda o dechnoleg hefyd ac roedd yn gyfarwydd â strategaethau marchnata ar-lein. Fodd bynnag, nid oedd ef na Ffionyn gwybod llawer am dwristiaeth werdd ac nid oeddent yn hyderus chwaith ynghylch sut i ymdrin â'r farchnad hon.
  4. Awgrymodd Ffion y gallai fod yn werth iddynt dalu cwmni marchnata i'w helpu i ofyn y cwestiynau cywir a phenderfynu ble i fynd er mwyn holi'r bobl gywir. Teimlai'r ddau ohonynt eu bod yn rhy agos i'r busnes posibl i fedru llunio barn ddiduedd ac y byddai arbenigwr yn gallu gweld pethau o'r newydd na allai hi na Dafydd eu gweld.
  5. Dafydd wnaeth y rhan fwyaf o'r ymchwil ddesg a Ffion fu'n gyfrifol am yr ymchwil dros e-bost a'r ffôn.
    • Chwiliodd Dafydd am ddata a oedd eisoes ar gael drwy sefydliadau fel Busnes Cymru [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] a Croeso Cymru er mwyn dod o hyd i fusnesau a oedd yn gweithio'n agos gyda'r sector twristiaeth.
    • Treuliodd Dafydd amser yn ymchwilio i gyfleoedd ariannu a allai fod ar gael iddynt fel busnes newydd yn y diwydiant twristiaeth, ar sail eu lleoliad. Wrth wneud hynny daeth ar draws y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth (CCBT) sy'n agored i fusnesau twristiaeth hen a newydd yng Nghymru. Gellir defnyddio'r cymorth er mwyn gwella ansawdd cyfleusterau a chynyddu capasiti os oes bwlch yn y farchnad, yn enwedig gwelliannau amgylcheddol a/neu effeithlonrwydd ynni.
    • Edrychai cwestiynau Ffion ar natur y llety a beth fyddai gofynion y trigolion.
  6. Ar ddiwedd y broses:
    • Mae Dafydd wedi dysgu nad oedd llawer o fusnesau gosod gwyliau yng Nghymru a oedd yn cynnig ôl-troed eco-gyfeillgar, and doedd dim o gwbwl yng Ngorllewin Cymru. Mae rhai busnesau yn cyfuno gweithgareddau fferm gyda llety ac roedd ambell i un arall yn hyrwyddo gweithgareddau eco-gyfeillgar yn yr ardal ond nid oedd un ohonynt yn hyrwyddo'r tair elfen gyda'i gilydd.
    • Dysgodd Ffion, gyda help y cwmni ymchwil i'r farchnad, fod diddordeb pendant mewn pecynnau gosod gwyliau ecogyfeillgar sy'n hyrwyddo rhinweddau gwyrdd y llety, lleoliad y fferm a'r cefn gwlad cyfagos.
  7. O ganlyniad i'w hymchwil i'r farchnad, teimlai Dafydd a Ffion yn hyderus bodmarchnad i'w busnes gosod gwyliau ecogyfeillgar.
  8. Gwnaethant benderfynu mai'r cam nesaf fyddai gwneud rhagor o ymchwil i ffyrdd y gallent farchnata eu busnes gosod gwyliau unigryw ond yn hytrach na chyfyngu eu hunain i Gymru yn unig, gwnaethant benderfynu ystyried marchnata i gynulleidfa fyd-eang. Ar ôl darganfod efallai y gallent gael cymorth i'w helpu i sefydlu busnes yn y diwydiant twristiaeth, gwnaethant benderfynu gwneud cais i Twristiaeth Cymru am grant o dan y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth

Nid oes rhaid i ymchwil i'r farchnad fod yn broses lafurus. Yn y bôn, y peth pwysicaf yw gofyn y cwestiynau cywir i'r bobl gywir fel y gallwch ddarparu'r cynnyrch neu'r gwasanaeth gorau. Bydd faint y byddwch yn ei fuddsoddi mewn ymchwil i'r farchnad yn dibynnu'n aml ar y buddsoddiad neu'r risg sy'n gysylltiedig â'ch busnes. Gwelodd Dafydd a Ffion fod angen iddynt fuddsoddi mewn ymchwil allanol i'r farchnad er mwyn cael safbwynt llawnach a phroffesiynol ac felly gwnaethant benderfynu cael help proffesiynol. Ni fydd hyn yn berthnasol i bob menter.