Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.4 Cymysgedd marchnata

Mae sawl diffiniad o farchnata. Mae'r un y byddwn yn ei ddefnyddio yn addas i sefydliadau dielw a masnachol, yn rhoi boddhad cwsmeriaid wrth wraidd prosesau marchnata ac yn rhoi pwyslais digonol ar ddosbarthu - hynny yw, sicrhau bod y cwsmer yn cael yr hyn rydych yn ei ddarparu mewn gwirionedd.

Mae marchnata yn golygu creu a dosbarthu boddhad cwsmeriaid er mwyn gwneud elw priodol ar adnoddau ac ymdrech.

Roedd 'y cymysgedd marchnata' yn un o'r prif gysyniadau a ddaeth i'r amlwg yn y 50au a'r 60au, yn ystod y cyfnod ffyniannus ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Mae'r marchnatwr cynnar Philip Kotler (2003) yn ei ddiffinio fel y set o adnoddau y mae'r cwmni yn eu defnyddio er mwyn cyflawni ei amcanion marchnata yn ei farchnad darged.

Mae pedair elfen i'r cymysgedd marchnata gwreiddiol (McCarthy, 1987):

  • lluoswm
  • pris
  • lle
  • hyrwyddo

Beirniadwyd y model am fod braidd yn hen ffasiwn ac yn anodd i'w ddefnyddio mewn cwmnïau diwydiannol a chwmnïau gwasanaeth. Wrth i farchnadoedd y gorllewin ganolbwyntio'n gynyddol ar wasanaethau, addaswyd y newidyn 'cynnyrch' er mwyn cynnwys cynhyrchion a gwasanaethau. Mae'r newidyn 'lle' hefyd yn anodd ei gymhwyso i wasanaethau lle mae gwerthiannau'n aml yn cael eu gwneud yn uniongyrchol i'r defnyddiwr heb unrhyw gyfryngwr (e.e. lawrlwytho cerddoriaeth a ffilmiau digidol).

Sylwodd Booms a Bitner ar y newid o farchnata cynhyrchion i farchnata gwasanaethau ac aethant ati i gyflwyno cysyniad y saith 'P'. Roedd y cysyniad hwn yn cydnabod pwysigrwydd tri newidyn ychwanegol ym maes marchnata, sef: pobl, proses a thystiolaeth ffisegol (Booms a Bitner, 1981). Byddwn yn dychwelyd at y model estynedig hwn yn ddiweddarach yn yr adran.

Fodd bynnag, mae model y pedwar 'P' yn dal i fod yn adnodd defnyddiol a syml i'w ddefnyddio wrth ddechrau cynllunio strategaeth farchnata, a byddwn yn gweithio gyda'r pedwar 'P' yn bennaf. Mae'r pedwar adnodd hyn (cynnyrch, pris, lle a hyrwyddo) yn rhyngddibynnol a'r gamp yw dod o hyd i'r 'cymysgedd' cywir i fodloni cwsmeriaid.